Gwaith i roi wyneb newydd ar gefnffordd yn Ne Powys

6 Tachwedd 2017 |
Mae gyrwyr yn cael eu rhybuddio y bydd gwaith i roi wyneb newydd ar gefnffordd yn ne Powys yn digwydd dros y tair wythnos nesaf.
Mae Cyngor Sir Powys yn rhoi'r rhybudd cyn y bydd gwaith angenrheidiol yn cychwyn ar yr A40 rhwng Parc Glan Usk ac Aberhonddu.
Bydd y gwaith yn cychwyn yfory (dydd Mawrth 7 Tachwedd) gan obeithio dod i ben ar ddydd Gwener 24 Tachwedd. Bydd Tîm Priffyrdd y Cyngor yn goruchwylio'r gwaith sy'n cael ei wneud ar ran Llywodraeth Cymru.
Bydd y gwaith yn cael ei wneud rhwng 8 am tan 6 pm, dydd Llun i ddydd Gwener ar bedwar safle penodol, sef Llanhamlach, Sgethrog i Fferm Newton, Tal-y-Bryn a'r Kestrel Inn.
Bydd rhaid cau'r ffordd yn ystod y dydd ar gyfer rhan o'r gwaith. Bydd y ffordd rhwng Sgethrog a Fferm Newton yn cau am bum diwrnod rhwng 8 - 14 Tachwedd (heblaw penwythnosau) rhwng 8 am - 6 pm a bydd y ffordd yn Kestrel Inn yn cau am saith diwrnod rhwng 15 - 23 Tachwedd (heblaw penwythnosau) rhwng 8 am - 6pm.
Y ffordd arall swyddogol yw ar hyd yr A40 i Aberhonddu, A470/A438 i Fronllys, A479 i Nantyffin i ymuno â'r A40, ac fel arall.