Cynlluniau buddsoddi ar gyfer ysgolion Powys

8 Tachwedd 2017 |
Mae cabinet y cyngor sir wedi rhoi sêl bendith i gynlluniau i fuddsoddi bron i £114m yn ysgolion Powys dros y blynyddoedd nesaf.
Bydd y cynlluniau uchelgeisiol yn cynnwys gwaith gwella sylweddol i ysgolion cynradd, uwchradd ac arbennig ar draws rhan eang o'r sir, fel rhan o raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif ar y cyd rhwng llywodraeth leol a Llywodraeth Cymru fydd yn digwydd rhwng 2019-2025/26.
Yn y cyfarfod yn Llandrindod ddydd Mawrth (7 Tachwedd), rhoddodd y cabinet ei gefnogaeth i'r cam diweddaraf yn y rhaglen adnewyddu ysgolion.
Rhan allweddol o'r cais fydd buddsoddiad sylweddol yn seilwaith addysgol yn ardal Y Drenewydd er mwyn gwella'r cyfleusterau i ddisgyblion agored i niwed yn Ysgol Cedewain ac Ysgol Brynllywarch, Ceri. Bydd rhai o ysgolion cynradd y dref hefyd yn elwa, yn ogystal â chynlluniau i ddatblygu ysgol uwchradd Gymraeg categori 2A yn y dref - gan adeiladu ar gryfderau a llwyddiant Ysgol Dafydd Llwyd yn y dref.
Mae'r rhaglen hefyd yn cynnwys nawdd i wella adeiladau ysgolion cynradd yn Aberhonddu, a hefyd i ddatblygu addysg Gymraeg yng Nghanol Powys. Mae'r cynlluniau hefyd yn cynnwys nawdd i adnewyddu neu ailfodelu ysgolion yn rhannau eraill o'r sir, yn dibynnu ar yr angen.
Dywedodd yr Aelod Cabinet ar faterion Addysg, y Cynghorydd Myfanwy Alexander: "Dyma'r cam cyntaf mewn buddsoddiad sylweddol i ddysgwyr, yn arbennig yn Y Drenewydd, er mwyn rhoi tegwch ac amgylchedd dysgu o safon i bawb, gan gynnwys dysgwyr yn ein hysgolion arbennig, ac mae angen rhoi blaenoriaeth i'w anghenion nhw."
Gallai'r datblygiad yn Y Drenewydd, sef tref fwyaf y sir, gynnwys prosiectau cyfalaf cyffrous gyda phartneriaid cyhoeddus gan gynnwys Bwrdd Iechyd Addysgu Powys, gyda'r posibilrwydd o wella gofal cymdeithasol ac iechyd yn y dref a'r fro fel rhan o raglen adeiladu sylweddol.
Daw'r newyddion wythnosau ar ôl i'r cyngor sir gytuno ar un o gynlluniau trosglwyddo tir fwyaf y sir gyda Chyngor Tref Y Drenewydd i ategu cais loteri gwerth £1m i wella cyfleusterau chwaraeon a hamdden yn y dref.
Yn ôl datganiad a gyflwynwyd gan y ddau gyngor, byddai trosglwyddo dros 110 erw o dir ar naill ochr Afon Hafren, gan gynnwys Parc Dolerw, y caeau chwaraeon ar lan yr afon a Bryn Trehafren i gyngor y dref yn paratoi'r ffordd am gais loteri i geisio datblygu cyfleusterau chwaraeon a hamdden.