Bwyty Powys yn cael ei erlyn am ddisgrifiad ffug o fwyd

10 Tachwedd 2017 |
Mae disgrifiad ffug o fwyd mewn bwyty wedi costio dros £7,000 i bartner yn y busnes bwyd ar ôl cael ei herlyn gan Gyngor Sir Powys.
Cafwyd Linda Dewan, partner yn Foyles, Y Clas-ar-Wy, yn euog yn Llys Ynadon Llandrindod ddoe (dydd Mercher, 9 Tachwedd) o ddisgrifiad ffug o fwyd a gynigiwyd ar fwydlen, gwefan ac ar gyfryngau cymdeithasol y bwyty mewn erlyniad dan arweiniad Gwasanaeth Safonau Masnach y cyngor.
Clywodd y llys fod safonau masnach wedi gweithredu ar gwyn a dderbyniwyd oddi wrth Gyfoeth Naturiol Cymru ym mis Ebrill 2016 ynghylch pryderon a oedd ganddynt am fwydlenni gan Foyles, yn enwedig y disgrifiadau 'Eogiaid Gwy' a 'Brithyll Gwy'. Anfonwyd pryderon Cyfoeth Naturiol Cymru at safonau masnach er mwyn iddynt eu harchwilio.
Dywedwyd wrth y llys na ellir gwerthu eogiaid o Afon Gwy yn gyfreithlon a phan aeth y swyddogion safonau masnachu i ymweld â Foyles, canfuwyd bod y cynnyrch eogiaid a brithyll o ffynonellau eraill, sef siopau fferm.
Yn dilyn hyn cafwyd ymchwiliad 18 mis i'r busnes a oedd yn dangos disgrifiadau ffug eraill a ddefnyddiwyd gan y busnes ar eu bwydlenni, gwefannau a chyfryngau cymdeithasol. Clywodd y llys y bu'n rhaid cyfweld nifer o bartneriaid a chogyddion / rheolwyr gan safonau masnach fel rhan o'r ymchwiliad.
Plediodd Dewan yn euog i bedwar cyhuddiad o dan y Ddeddf Diogelwch Bwyd ac un cyhuddiad o dan Reoliadau Diogelu Defnyddwyr rhag Masnachu Annheg 2008 am ddisgrifiadau ffug o'r bwyd yn y bwyty.
Dedfrydwyd Dewan i ddirwy o £500 gan y llys am bob un o'r cyhuddiadau Deddf Diogelwch Bwyd ac ni chafwyd cosb ar wahân am y cyhuddiad Diogelu Defnyddwyr. Dywedodd y llys eu bod wedi rhoi credyd i'r plediau cynnar a roddwyd gan Dewan a gostyngwyd y ddirwy o £750 i £500 ar gyfer y cyhuddiadau Deddf Diogelwch Bwyd.
Hefyd, gosododd y llys gordal dioddefwyr o £50 a gorchmynnwyd iddi dalu costau erlyn llawn o £5,380, gan ddod â'r ddirwy a chyfanswm y costau i £7,430.
Dywedodd y Cynghorydd Jonathan Wilkinson, Aelod Cabinet dros faterion Safonau Masnach: "Rhaid inni ddiogelu'r cyhoedd rhag disgrifiadau ffug a chefnogi busnesau sy'n cydymffurfio. Bydd ein tîm safonau masnach yn gweithredu ar wybodaeth ac yn ymchwilio i fusnesau os yw er budd y cyhoedd, ac yn dilyn materion drwy'r llys.
"Mae tarddiad y bwyd rydym yn ei fwyta yn gynyddol bwysig i ddefnyddwyr; mae'n hollbwysig os caiff bwyd ei ddisgrifio o ffynonellau lleol, y gall defnyddwyr brynu hyn yn llawn hyder."
Dywedodd Clive Jones, Arweinydd Proffesiynol y Cyngor ar gyfer Safonau Masnach, Diogelwch Cymunedol a Chynllunio Argyfwng: "Hoffwn gymeradwyo ein swyddogion am y ffordd y maen nhw wedi gweithredu yn ystod yr ymchwiliad cymhleth hwn. Rhaid i fusnesau gael eu disgrifiadau'n gywir ac ni ddylent gamarwain defnyddwyr trwy ddisgrifiadau ffug, fel arall gallent fod yn torri rheoliadau masnach deg a diogelwch bwyd pwysig."