Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Bydd llinellau ffôn Treth y Cyngor ac Ardrethi Busnes A llinellau Dyfarniadau ar gau 5 Rhagfyr oherwydd hyfforddiant staff.

Adolygiad o Wasanaethau Hamdden

A person using a running machine in a gym

8 Tachwedd 2024

A person using a running machine in a gym
Mae Cyngor Sir Powys wedi dweud bod angen ail-feddwl sut y darperir gwasanaethau hamdden ym Mhowys dros y blynyddoedd nesaf i ddiogelu'r ddarpariaeth ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Dywedodd yr Aelod Cabinet ar gyfer Powys Fwy Diogel, y Cynghorydd Richard Church: "Rydym am osod y sylfeini ar gyfer gwasanaeth cynaliadwy ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol i helpu i gefnogi poblogaeth egnïol ac iach yn y sir.

"Mae ein gwasanaethau'n uchel eu parch ac wedi cael cefnogaeth dda yn y gorffennol, ond mae ein hadolygiad wedi dangos nad yw'r cyfleusterau presennol yn addas at y diben ac na allant gyflawni ein dyheadau ar gyfer sir iach ac egnïol, heb fuddsoddiad sylweddol.

"Mae'r cyngor wedi nodi gwahanol opsiynau a allai ffurfio'r glasbrint ar gyfer y ffordd y mae gwasanaethau'n cael eu rheoli yn y dyfodol.

"Rydym yn bwriadu cyflwyno pedwar opsiwn ar gyfer ymgynghori â'r cyhoedd, gan nodi'r costau a cheisio barn defnyddwyr gwasanaethau a chymunedau ar y ffordd orau ymlaen.

"Mae gwasanaethau hamdden yn rhan bwysig o'r cyngor. Rydym yn rhedeg mwy o ganolfannau hamdden nag unrhyw Gyngor arall yng Nghymru ac mae'n rhaid i ni sicrhau bod unrhyw opsiwn i'r dyfodol yn fforddiadwy, yn darparu mynediad teg ac yn cefnogi poblogaeth iach ac egnïol," ychwanegodd.

Dyma'r pedwar opsiwn i'w hystyried:

Opsiwn 1: Cadw pethau fel y maen nhw; parhau â'r ddarpariaeth bresennol (14 canolfan), gyda darpariaeth Freedom Leisure drwy'r contract presennol.

Opsiwn 2:

- Darparu pum hyb hamdden craidd ar hyd asgwrn cefn Powys (y Trallwng, y Drenewydd, Llandrindod, Aberhonddu ac Ystradgynlais)

- Ail-drafod y contract gyda Freedom Leisure i ddarparu gweithgareddau hamdden yn y 5 canolfan uchod o fis Awst 2027 ymlaen, ynghyd ag archwilio'r posibilrwydd o ddatblygu dulliau eraill o gyflawni'r ddarpariaeth hamdden sy'n targedu iechyd a lles, gan gynnwys opsiynau allgymorth a digidol.

- Cau pob canolfan (ar wahân i'r pump a nodir uchod) oni bai eu bod yn cael eu trosglwyddo i'r ysgol NEU fod achos busnes cynaliadwy a hyfyw yn cael ei dderbyn a'i gymeradwyo.

- Trafod gydag ysgolion ynghylch trosglwyddo cyfleusterau ochr sych lle bo hynny'n hanfodol i ddarparu'r cwricwlwm ac i weithredu ysgol yn effeithiol, lle nad oes gan yr ysgolion eu neuaddau chwaraeon eu hunain, felly'r cyfleusterau hamdden yw'r unig ddarpariaeth ar gyfer arholiadau a gweithgareddau cwricwlwm ac allgyrsiol.

- Cynnal trafodaethau gydag ysgolion perthnasol ynghylch rhedeg cyfleusterau hamdden a mynediad cymunedol iddynt. Gall fod yn fwy hyfyw yn ariannol, ac yn well o ran rhesymau rheoli, i Freedom Leisure (neu unrhyw ddarparwr hamdden arall) barhau i reoli a rhedeg y cyfleusterau ar safle ysgol y tu allan i oriau ysgol, er mwyn cynhyrchu incwm a chadw arbenigedd hamdden.

- Lle nad yw trosglwyddo cyfleuster i ysgol yn opsiwn, dylid gwahodd 'Datganiadau o Ddiddordeb' ar gyfer y cyfleusterau sy'n weddill (cyfleusterau ochr wlyb / ochr sych / awyr agored) erbyn diwedd mis Medi 2025

- Yn dilyn asesiad o'r Datganiadau o Ddiddordeb a dderbynnir, gwahodd Achosion Busnes cadarn erbyn diwedd mis Medi 2026 i drosglwyddo'r cyfleusterau sy'n weddill i reolaeth arall.

- Gwerthuso Achosion Busnes - hysbysu ceisiadau llwyddiannus erbyn 30 Tachwedd 2026 a'u rhoi ar waith a'u trosglwyddo'n llawn erbyn 31 Awst 2027.

- Os na fydd unrhyw gyfleusterau'n cael eu trosglwyddo i ysgol, a lle nad oes Achos Busnes cynaliadwy wedi'i gymeradwyo, bydd cyfleusterau'n cau ar 31 Awst 2027.

Opsiwn 3: Bydd yr holl ddarpariaeth hamdden yn newid i fod wedi'u harwain yn gymunedol neu'n fasnachol. Ni fydd y Cyngor bellach yn darparu unrhyw wasanaethau / cyfleusterau hamdden yn uniongyrchol ond fe fydd yn gweithio gydag eraill ac yn eu cefnogi i ddatblygu darpariaeth sy'n cael ei arwain gan y gymuned sy'n diwallu anghenion lleol, drwy ymgysylltu agored.

Gall hyn gynnwys trosglwyddo cyfleusterau sy'n bodoli eisoes i grwpiau cymunedol neu sector preifat, a/neu gefnogi'r economi leol i ddatblygu busnesau lleol (e.e. hyfforddwyr ioga, campfeydd preifat, defnyddio pyllau nofio mewn gwestai ac ati). Ymgynghori / Datganiad o ddiddordeb / proses achos busnes ac amserlenni fel opsiwn 2.

Opsiwn 4:

- Cadw Canolfannau Hamdden gyda phyllau nofio yn y pum tref hyb graidd: Y Trallwng, Y Drenewydd, Llandrindod, Aberhonddu ac Ystradgynlais

- Ceisio cyllid cyfalaf ar gyfer darparu cyfleusterau hamdden ar gyfer Llandrindod, ochr yn ochr ag ysgol uwchradd newydd. Os nad yw'r cyllid ar gael, bydd y cyfleuster hamdden presennol yn cael ei gadw.

- Cadw Canolfan Hamdden a phwll nofio Machynlleth ond archwilio opsiynau ar gyfer cyfleuster newydd ger yr ysgol newydd. Os nad oes cyllid ar gael ar gyfer cyfleuster newydd, bydd y cyfleuster hamdden presennol yn cael ei gadw.

- Cadw cyfleusterau hamdden a phwll Llanidloes.

- Cadw cyfleusterau hamdden a phwll yn Nhref-y-clawdd.

- Cynnig i drosglwyddo'r cyfleusterau ochr sych yn Llanfyllin, Dwyrain Maesyfed, Llanfair-ym-Muallt, Llanfair Caereinion i ysgolion lle bo hynny'n hanfodol i'r ysgol a chynnal trafodaethau gyda Freedom Leisure i'w cael nhw i reoli eu defnydd y tu allan i oriau ysgol tan ddiwedd y contract (2030)

- Archwilio'r posibilrwydd o drosglwyddo ochr sych Canolfan Hamdden Rhaeadr Gwy a / neu unrhyw ganolfannau ochr sych eraill nad ydynt yn trosglwyddo i ysgolion), gan ganiatáu 2 flynedd o ddiwedd yr ymgynghoriad.

- Cau pyllau nofio Llanfair-ym-Muallt, Dwyrain Maesyfed, Rhaeadr Gwy a Llanfyllin erbyn 31 Rhagfyr 2025. Cynnig y gofod a ddefnyddir gan unrhyw byllau sy'n cau ar gyfer gweithgareddau hamdden eraill, naill ai'n fasnachol, dan reolaeth Freedom neu sector cyhoeddus arall (e.e. ardal chwarae dan do i blant, canolfan deuluol, iechyd, manwerthu). Ymgysylltu â chymunedau i weld sut y byddent yn dymuno gweld y mannau'n cael eu defnyddio.

- Cau'r cyfleusterau ochr sych yn Llanfyllin, Llanfair Caereinion, Dwyrain Maesyfed, Rhaeadr Gwy a Llanfair-ym-Muallt oni bai eu bod wedi'u trosglwyddo i ysgol neu gymuned, a lle nad oes Achos Busnes cynaliadwy wedi'i gymeradwyo, bydd hyn yn digwydd erbyn 31 Awst 2027.

Pa ddewis bynnag a ddewisir, mae'r Cyngor hefyd yn awyddus i glywed gan gymunedau lleol sut y gellir defnyddio eu canolfan hamdden leol fel ei bod yn darparu'r hyn y mae'r gymuned leol ei eisiau am bris fforddiadwy, a lle mae angen newid, sut y gall y gymuned wneud y gorau o'r newid hwnnw.

Bydd yr adroddiad a'r opsiynau'n cael eu hadolygu gan Gydbwyllgor Craffu'r cyngor ar 14 Tachwedd cyn cael eu hystyried gan y Cabinet ar 26 Tachwedd.

Os caiff eu cymeradwyo gan y Cabinet, cynhelir ymgynghoriad ar yr opsiynau yn 2025.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu