Ymrwymiad y Canghellor i fargen twf Canolbarth Cymru yn cael ei groesawu
Translation Required:

22 Tachwedd 2017 |
Mae Arweinydd Cyngor Sir Powys wedi croesawu ymrwymiad y Canghellor i Fargen Twf Canolbarth Cymru.
Yn ystod Cyllideb yr Hydref, nododd y Canghellor Philip Hammond heddiw (dydd Mercher, 22 Tachwedd) gynlluniau i adeiladu economi Gymreig sy'n addas ar gyfer y dyfodol.
Fel rhan o'i araith, cyhoeddodd y Canghellor bod llywodraeth y DU yn agored i gynigion ar gyfer Bargen Twf Canolbarth Cymru.
Wrth sôn am y cyhoeddiad heddiw, dywedodd yr Arweinydd, y Cyng Rosemarie Harris: "Mae gan fargenion twf y potensial i ail-lunio datblygiad economaidd rhanbarth felly rwy'n croesawu ymrwymiad y Canghellor i fargen dwf ar gyfer Canolbarth Cymru.
"Gallai unrhyw fargen dwf ar gyfer Canolbarth Cymru wella'r seilwaith trafnidiaeth, cysylltedd digidol a helpu i ddatblygu cyfleoedd am swyddi newydd ar gyfer y rhanbarth. Byddai hyn o fudd mawr i Bowys ac i Gymru gyfan
"Rydym am ddatblygu economi ffyniannus ym Mhowys a bydd bargen dwf ar gyfer Canolbarth Cymru yn ein helpu i gyflawni hynny.
"Gyda Chaerdydd ac Abertawe â'u bargenion dinasoedd hwy yn eu lle a Gogledd Cymru yn agosach at gael bargen dwf, mae dim ond yn deg bod Canolbarth Cymru yn cael yr un math o ymroddiad a buddsoddiad.
"Byddwn yn gwneud popeth a allwn i sicrhau bod hyn yn digwydd ar gyfer Canolbarth Cymru a byddwn yn gweithio gyda Llywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru a'r sector busnes i wneud yn siwr bod hyn yn cael ei wireddu."