Cymunedau Deall Dementia
Ym Mhowys heddiw mae cymunedau'n tynnu at ei gilydd i fynd i'r afael â'r stigma sy'n gysylltiedig â'r clefyd trwy drefnu sesiynau Cyfeillion Dementia dan arweiniad Hyrwyddwyr gwirfoddol Cyfeillion Dementia.
Mae hyn yn golygu dysgu pobl i ddeall dementia a dangos pa mor bwysig yw gwneud pethau syml ac ymarferol i addasu i'r clefyd ym mywyd bob dydd. Yr un fath bydd hyn yn rhoi cymaint o annibyniaeth a pharch â phosibl i'r rhai sy'n byw gyda dementia gan eu helpu nhw a'u gofalwyr i fyw'n dda a chyfrannu i'r gymuned.
Trwy weithio gyda Chymdeithas Alzheimer's, mae cymunedau'n cymryd camau mawr i Ddeall Dementia. Mae Cymuned Deall Dementia'n cynnwys y gymuned gyfan:
- gweithwyr siop,
- gweithwyr gwasanaethau cyhoeddus,
- grwpiau ffydd,
- busnesau,
- heddlu,
- staff gwasanaethau tân ac ambiwlans,
- gyrwyr bysus,
- disgyblion ysgol,
- clybiau a chymdeithasau ac arweinwyr cymunedol - pobl sydd wedi ymrwymo i weithio gyda'i gilydd i helpu'r rhai hynny sy'n byw gyda dementia i barhau i fod yn rhan o'r gymuned.
Mae Aberhonddu ar flaen y gad o ran herio'r mythau a'r stigma o amgylch y clefyd.
Mewn menter sy'n cael ei harwain gan wirfoddolwyr, mae tref Aberhonddu'n gweithio'n ddiwyd i godi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth, yn helpu ac yn hyrwyddo cynhwysiant cymdeithasol, ac yn bwysicaf oll yn rhoi llais i bobl â dementia a'u gofalwyr er mwyn gallu cydnabod eu hanghenion yn llawn a chynnig y cymorth iawn.
Ar 14 Awst 2014, i gydnabod y gwaith sydd ar fynd, derbyniodd tref Aberhonddu statws swyddogol 'Gweithio i ddeall Dementia' gan y Gymdeithas Alzheimer. Dyma'r gymuned gyntaf yng Nghymru i'w chydnabod fel hyn sy'n adlewyrchu'r ffaith bod y gymuned yn fawr ei gofal.