Kathleen yn dathlu ei phen-blwydd yn 101 oed
Translation Required:

23 Tachwedd 2017 |
Mae Cadeirydd Cyngor Sir Powys wedi ymweld â gwraig yng Nghegidfa ar ei phen-blwydd yn 101 oed.
Dathlodd Mrs Kathleen Somerville o Faes y Granllyn, Cegidfa, ei phen-blwydd yn 101 oed ar ddydd Llun, 13 Tachwedd. Cyflwynodd y Cynghorydd Dai Davies gerdyn a thusw o flodau iddi i ddathlu'r digwyddiad arbennig hwn.