Beth sy'n digwydd pan fydd rhywun yn rhoi gwybod am achos o gam-drin?
Bydd Gwasanaethau Cymdeithasol, yr Heddlu, Gwasanaethau Iechyd neu Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru yn ymchwilio i bob honiad o gam-drin neu niwed.
Bydd pwy sy'n rhan o'r broses yn dibynnu ar beth ddigwyddodd.
Ymchwilio i achosion o atgyfeirio
Rhaid ymchwilio i bob achos sy'n cael eu hatgyfeirio i ddiogelu oedolion. Os bydd rhywun yn cysylltu a ni amdanoch chi, byddwn fel arfer yn cysylltu a chi. Byddwn yn pwyso a mesur y perygl ac yn penderfynu beth sydd angen ei wneud ac os oes angen ymchwilio ymhellach.
Ymchwiliad diogelu oedolion
Bydd yr ymchwiliad diogelu oedolion yn darganfod beth ddigwyddodd, pwy oedd yn gysylltiedig a beth sydd angen ei wneud i'ch cadw chi'n ddiogel. Fe allai'r ymchwilwyr weithio i wasanaethau cymdeithasol neu iechyd. Mae'n bosibl y cewch eich cyfweld fel rhan o'r ymchwiliad.
Ar ol yr ymchwiliad, byddwn yn edrych ar yr adroddiad ac yn penderfynu a ddigwyddodd yr honiadau ac yn trafod beth ddylai ddigwydd nesaf. Byddwn hefyd yn sicrhau eich bod chi'n ddiogel ac yn cael help.
Contacts
Feedback about a page here