Eich hawliau chi yn y broses diogelu oedolion
Mae'r safonau isod yn nodi beth y gallwch ei ddisgwyl o'r broses diogelu oedolion.
1 - Datgan Pryderon
Byddwn yn cymryd unrhyw honiadau o gam-drin o ddifrif a byddant yn cael eu trin gan wasanaethau cymdeithasol, yr heddlu neu wasanaethau iechyd.
2 - Gwneud penderfyniadau
Fe fyddwch yn cymryd rhan mewn unrhyw benderfyniadau fydd yn cael eu gwneud.
3 - Cyfathrebu
Byddwn yn gwneud ein gorau glas i'ch helpu chi gydag unrhyw anghenion cyfathrebu sydd gennych.
Safon 4 - Cyfarfodydd
Byddwn yn eich annog a'ch helpu chi ddod i bob cyfarfod sy'n cael eu trefnu i drafod eich sefyllfa. Ond ni fyddwch yn cael bod yno os ydyn nhw'n trafod gwybodaeth gyfrinachol am rywun arall.
Safon 5 - Asesiad Risg a Chynlluniau Diogelu
Fe fyddwch yn rhan o'r broses o asesu risg wrth lunio Cynllun Diogelu i'ch cadw chi'n ddiogel.
Safon 7 - Cymorth
Byddwch yn cael help trwy'r broses fel eich bod chi'n deall beth sy'n digwydd.
Safon 8 - Eiriolaeth
Fe wnawn gynnig eiriolwr i chi os hoffech gael rhywun i'ch helpu chi trwy'r broses. Os nad ydych chi'n gallu gwneud penderfyniadau am gadw'ch hun yn ddiogel, mae'n bosibl y bydd Eiriolwr Galluedd Meddyliol yn cael ei benodi i gynrychioli eich barn a'ch dymuniadau chi.
Safon 9 - Canlyniadau
Cewch glywed canlyniad terfynol yr ymchwiliad diogelu oedolion a lle'n bosibl, cewch glywed beth fydd yn digwydd i'r unigolyn neu'r sefydliad a wnaeth niwed i chi.
Contacts
Feedback about a page here