Cynlluniau i drawsnewid gwasanaethau priffyrdd

24 Tachwedd 2017 |
Mae'r cyngor wedi cyhoeddi cynlluniau i drawsnewid sut mae gwasanaethau priffyrdd, trafnidiaeth ac ailgylchu'n cael eu gweithredu.
Mae Rhaglen Drawsnewid yn cael ei datblygu yn hytrach na sefydlu 'cwmni mewn perchnogaeth lwyr' i wneud y gwaith priffyrdd, trafnidaeth ac ailgylchu ar ran y cyngor sir.
Sefydlwyd y Bwrdd Comisiynu Priffyrdd, Trafnidaeth ac Ailgylchu i edrych ar ddichonoldeb cael cwmni mewn perchnogaeth lwyr i wneud gwaith ar ran y cyngor. Penderfyniad y bwrdd oedd y byddai'r gwasanaethau'n parhau i gael eu gwneud yn fewnol ond y bydden nhw'n newid o'r system bresennol.
Y bwriad yw gwneud y gwasanaeth yn fwy masnachol a hyblyg i gyd-fynd â gweledigaeth y cyngor o ran cyflwyno gwasanaethau bro, a chwtogi costau cyffredinol y gwasanaeth.
Bydd y rhaglen drawsnewid yn canolbwyntio ar chwe ffrwd waith i newid a gwella gwasanaethau, perfformiad a chynhyrchiant:-
· gweithrediadau
· masnacheiddio
· cyllid a chaffael
· Datblygu Sefydliadol a chynllunio
· pobl a chynhyrchiant
· Trawsnewid digidol
Dywedodd y Cynghorydd Phyl Davies, Aelod Cabinet ar faterion Eiddo a Gwastraff, a'r Cynghorydd Liam Fitzpatrick, Aelod Cabinet ar faterion Priffyrdd: "Ry'n ni'n benderfynol o greu gwasanaeth sy'n gallu cyflwyno gwasanaethau sydd eu hangen ar ein trigolion ac o fewn yr adnoddau sydd ar gael. Nid ar chwarae bach yw'r prosiect hwn ond ry'n ni'n hyderus y gallwn drawsnewid y gwasanaeth gyda chefnogaeth y cyngor cyfan.
"Mae'n mynd i gymryd amser ond rydym yn barod i fwrw ati at y tymor hir er mwyn creu'r math o wasanaeth sydd ei angen."