Aelod Cabinet ar faterion Priffyrdd yn lansio arolwg am feiciau modur

27 Tachwedd 2017 |
Mae trigolion ledled Powys sy'n pryderu am ddamweiniau beiciau modur yn cael y cyfle i fynegi eu barn i'r Aelod Cabinet ar faterion Priffyrdd.
Mae'r Cyng Liam Fitzpatrick am glywed barn trigolion a chymunedau ledled y sir am ddamweiniau beiciau modur a'r effaith y maen nhw'n eu cael ar gymunedau lleol.
"Rydw i wedi bod yn Aelod Cabinet ar faterion Priffyrdd am chwe mis ac yn ystod y miloedd o filltiroedd rwyf eisoes wedi teithio ac wrth siarad â chynghorwyr sir, cynghorwyr cymuned ac aelodau o'r gymuned mae'r broblem o feiciau modur wedi codi dro ar ôl tro," meddai'r Cyng. Fitzpatrick.
"Mae'r rhai rwyf wedi siarad â hwy yn pryderu am farwolaethau a damweiniau beiciau modur ar ein ffyrdd a'r cyflymder anhygoel y maen nhw'n teithio.
"Yn anffodus, nid oes gen i hudlath sy'n gallu datrys hyn. Fodd bynnag, hoffwn lunio adroddiad y gallaf ei ddefnyddio fel ffynhonnell i ddechrau deialog gyda Heddlu Dyfed Powys a'r Comisiynydd Troseddau, a Gweinidog Llywodraeth Cymru fel y gallwn ni fynd i'r afael â'r materion gyda'n gilydd.
"Byddwn yn gwerthfawrogi'n fawr derbyn barn ein trigolion a pha ffyrdd sydd angen sylw.
"Gall unrhyw un sy'n dymuno mynegi eu barn anfon neges e-bost ataf yn cllr.liam.fitzpatrick@powys.gov.uk a bydd gennych tan ddydd Gwener, 22 Rhagfyr i wneud hynny."