Gwerthfawrogi Gofalwyr Maeth

28 Tachwedd 2017
Yn ystod y Ffair Aeaf eleni, cafwyd canmoliaeth i'r gwaith pwysig y mae gofalwyr maeth yn ei wneud yn helpu plant.
Mae Cabinet Cyngor Sir Powys wedi cynnal derbyniad arbennig ar faes y sioe i gwrdd â gofalwyr maeth ac i ddiolch yn bersonol iddynt am eu gwaith yn cefnogi pobl ifanc yn y sir.
Dywedodd y Cynghorydd Rachel Powell, Aelod Cabinet Cyngor Sir Powys ar Wasanaethau Plant: "Rydym yn frwd am y gwahaniaeth y gall gofal maeth ei wneud i fywydau plant a phobl ifanc sy'n cael eu maethu.
"Roedd hwn yn gyfle i gydnabod yn bersonol y gwaith sy'n cael ei wneud, i drafod gweithgareddau i'r dyfodol a dathlu llwyddiant."
Hefyd, roedd cyfle i ymwelwyr â'r Ffair Aeaf wybod mwy am sut i ddod yn ofalwr maeth ac i nodi eu hatgofion ar goeden atgofion plentyndod.
I wybod mwy am ddod yn ofalwr maeth, anfonwch e-bost at fostering@powys.gov.uk neu ffoniwch Caroline Mears ar 01874 614035 am sgwrs anffurfiol.