1. Logio Mewn / Cofrestru
  2. English
Close Icon
  1. Logio Mewn / Cofrestru
Hysbysiad: A-Y Ailgylchu - Ddim yn siŵr ym mha focs i roi eich gwastraff o'r tŷ?
Darllen mwy

Llongyfarch Morgan a Pauline ar eu dethol i Gemau'r Gymanwlad

Image cynrychioli Llongyfarch Morgan a Pauline ar eu dethol i Gemau'r Gymanwlad
1 Rhagfyr 2017 

Image of Morgan JonesMae'r Cyngor Sir wedi llongyfarch dau athletwr o Bowys wedi iddynt gael eu dethol i gynrychioli Cymru yng Ngemau'r Gymanwlad y flwyddyn nesaf.

Mae'r gwibiwr 100m Morgan Jones, o Bontnewydd-ar-Wy a Pauline Wilson o Lanfair-ym-Muallt, sy'n fowliwr, wedi'u dethol gan Team Cymru a byddant yn cystadlu yng Ngemau'r Gymanwlad yn 2018, ar y Traeth Aur yn Awstralia.

Bydd Morgan, sy'n gyn-ddisgybl Ysgol Uwchradd Llanfair-ym-Muallt yn cystadlu yn y ras 100m T47 i ddynion a bydd Pauline yn cystadlu yn y gystadleuaeth trioedd agored (B6/B7/B8).

Mae Tîm Datblygu Chwaraeon y cyngor wedi cynorthwyo'r ddau athletwr.

Dywedodd y Cyng Rachel Powell, Aelod Cabinet ar faterion Datblygu Chwaraeon: "Mae hwn yn gyflawniad gwych, a hoffwn i longyfarch Morgan a Pauline ill dau ar gael eu dewis i gynrychioli Tîm Cymru yng Ngemau'r Gymanwlad y flwyddyn nesaf.

"Mae'n wych i'n Tîm Datblygu Chwaraeon weld athletwyr talentog y maen nhw wedi'u cynorthwyo i gael eu dewis i berfformio ar y llwyfan rynglwadol.

"Rwy'n dymuno'r gorau i Morgan a Pauline wrth iddyn nhw baratoi ar gyfer Gemau'r Gymanwlad y flwyddyn nesaf ac rwy'n siwr y bydd y sir gyfan yn rhoi llais i'w cefnogaeth wrth iddyn nhw gymryd rhan pan fyddant yn Awstralia."

Rhannwch y dudalen hon

Facebook icon Twitter icon Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu