Toglo gwelededd dewislen symudol

Dod o hyd i Glwb Ieuenctid lleol

Cynhelir clybiau ieuenctid mewn llawer o adeiladau a lleoliadau gwahanol - efallai y byddant yn y ganolfan gymuned neu ganolfan hamdden leol, neu fe ellir cael prosiect allanol yn agos atat ti. Mae Clybiau Ieuenctid yn cael eu cynnal gan bobl ifanc, felly gelli di helpu penderfynu ar weithgareddau a sut mae'r grwp yn gweithio. Mae gweithwyr ieuenctid yno i gefnogi'r grwp, ac os wyt ti angen cael sgwrs, byddan nhw yno i wrando a rhoi cyngor gonest heb fod yn feirniadol.

Caiff Clybiau Ieuenctid eu cynnal fin nos ac yn ystod y gwyliau i unrhyw un sydd am alw heibio. Mae gennym brosiectau hefyd ar gyfer grwpiau penodol megis rhieni ifanc, siaradwyr Cymraeg, pobl ifanc lesbaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol (LGBTQ) a gofalwyr ifanc.

Cynhelir Powys Xtreme yn ystod gwyliau ysgol a chaiff gweithgareddau eu darparu i bobl ifanc 11 i 25 oed, gan roi blaenoriaeth i bobl ifanc 13 i 19 oed. Mae gweithgareddau'n cynnwys:

  • Ymweld â dinasoedd diwylliannol
  • Pledu paent
  • Bowlio
  • Dringo creigiau
  • Gweithdai cerddoriaeth a chelfyddydau
  • Digwyddiadau chwaraeon
  • Ymweld â pharciau thema
  • Ymweld â pharciau sglefrolio

Gan fod y cyngor yn sybsideiddio'r cynllun, mae'n gyfle i gymryd rhan mewn nifer o weithgareddau gwych heb wario gormod.

Edrycha ar y Clybiau Ieuenctid sy'n agos atat ti, a gweld beth sy'n digwydd ynddynt. Mae'n bosibl fod mwy yn digwydd yn dy ardal nag yr wyt yn meddwl!

Os yw eich cymuned chi am ddechrau clwb ieuenctid neu am gael cefnogaeth i redeg clwb, yna cysylltwch â ni i weld pa gyngor a chymorth sydd ar gael.

Noder: Mae canolfannau ieuenctid ar gael yn gyffredinol ar ddyddiau'r wythnos o ganol dydd tan 9pm, ond mae ein gweithwyr ieuenctid hefyd yn gweithio mewn ysgolion, ac yn rhedeg sesiynau canolfannau ieuenctid, felly mae'n bosibl na fyddi'n gallu cael gafael ar rywun. Rho gynnig arall arni nes ymlaen, neu os oes cyfleusterau yn bodoli, gelli  adael neges ar beiriant ateb neu anfon e-bost at yr unigolyn perthnasol.