Cefnogaeth gan y Gwasanaeth Ieuenctid
Gallwn gefnogi pobl ifanc mewn amrywiaeth o ffyrdd, o gael rhywbeth i'w wneud, i ddelio gyda phroblemau bywyd. Gallwn helpu a chefnogi unrhyw berson ifanc mewn clwb ieuenctid neu ysgol.
Clwb Ieuenctid
Mae croeso i bob person ifanc ym Mhowys i fynychu eu canolfan ieuenctid lleol canolfan ieuenctid lleol, lle y gallant ymlacio a chael hwyl mewn amgylchedd diogel a chyffyrddus, yn ogystal â dewis gweithgareddau y gallant gymryd rhan ynddynt. Ry'n ni hefyd yn cynnig cymwysterau mewn ystod o bynciau a gallwn ddarparu gwybodaeth i alluogi pobl ifanc i wneud dewisiadau bywyd deallus.
Gallwch ddod o hyd i'ch clwb ieuenctid lleol, ar ein tudalen 'dod o hyd i glwb ieuenctid', gyda dolen i'w tudalen facebook, sy'n gallu rhoi blas i chi o'r hyn sy'n mynd ymlaen.
Ysgol
Mae Gweithiwr Ieuenctid yn ymweld â phob ysgol uwchradd o leiaf unwaith yr wythnos, pan fydd y disgyblion yn gallu cael gwybodaeth a chyngor; yn ogystal â darparu sesiynau taro heibio byddwn yn aml yn arwain gwasanaeth boreol, neu'n cyflwyno sesiwn grwp i drafod pwnc arbennig.
Yn y Gymuned
Un o'n hamcanion craidd yw sicrhau bod pobl ifanc yn teimlo fel aelod gwerthfawr o gymdeithas. Mae nifer o'n clybiau ieuenctid yn gweithio'n agos gyda'u cyngor tref a chynghorwyr lleol, yn ogystal ag aelodau eraill blaenllaw o'r gymuned i helpu cydlyniant cymunedol.
Yn y gorffennol, mae clybiau ieuenctid wedi helpu ail-addurno a thacluso ardaloedd cymunedol ac wedi bod yn rhan o ddigwyddiadau cymunedol.