Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Gwasanaeth Ymyrraeth Ieuenctid

Ymyrraeth gynnar, cymorth a chefnogaeth i bobl ifanc a'u teuluoedd.
Image of a girl looking sad

Tîm sy'n seiliedig ar atgyfeirio yw'r Gwasanaeth Ymyrraeth Ieuenctid o fewn y Gwasanaeth Ieuenctid, gan gyflwyno help a chefnogaeth i bobl ifanc 11-18 mlwydd oed a'u teuluoedd ym Mhowys. Cynhelir y gwaith gan weithwyr ieuenctid profiadol sydd wedi'u hyfforddi'n broffesiynol.

Mae'r Gwasanaeth Ymyrraeth Ieuenctid hefyd yn cynnal prosiect o'r enw Cynnydd, a arienir gan y Gronfa Gymdeithasol Ewropeaidd (ESF) sy'n rhoi'r cyfle i ni gynnig cefnogaeth a chyfarwyddyd i bobl ifanc ychwanegol ym Mhowys, er mwyn gostwng y cyfleoedd ohonynt 'ddim yn bod mewn Addysg, Cyflogaeth na Hyfforddiant' (NEET) pan fyddant yn gadael yr ysgol. Mae meini prawf penodol gan y prosiect hwn, ac mae pobl ifanc yn cael eu dynodi ar gyfer cyfranogiad trwy waith gyda phob ysgol Uwchradd.  

Mae'r gefnogaeth a gynigir gan y Gwasanaeth Ymyrraeth Ieuenctid a Chynnydd yn golygu gwaith un i un gyda phobl ifanc i drafod ystod o faterion ac anawsterau gan gynnwys:

  • Hunan-barch
  • Hunan-hyder
  • Deall teimladau, emosiynau ac ymddygiadau cysylltiedig
  • Cymorth i ddatblygu strategaethau ymdopi positif ynghylch e.e. hunan-niweidio lefel isel, gorbryder, gwydnwch emosiynol gwael, profedigaeth, y teulu'n dadfeilio, effaith iechyd meddwl y rhiant/gofalwr neu eu camddefnydd o gyffuriau/alcohol
  • Perthnasoedd cymdeithasol a pherthnasoedd gyda chyfoedion
  • Perthnasoedd teuluol
  • Diogelwch personol e.e. ecsploetiaeth, camfanteisio rhywiol, diogelwch ar-lein, perthnasoedd iach ac ymddygiad sy'n golygu cymryd risg
  • Datblygiad personol a chymdeithasol (gan gynnwys sgiliau am fywyd, dysgu a gwaith),
  • Cefnogaeth i feithrin sgiliau Gwydnwch a gwneud penderfyniadau sy'n cyfrannu tuag at eu lles.

Mae'r Gwasanaeth Ymyrraeth Ieuenctid hefyd yn cynnig cefnogaeth a chyngor i rieni trwy'r grwpiau cefnogi rhianta Take3a gynhelir trwy gydol y flwyddyn.

Gall rhieni, gofalwyr a phobl ifanc sy'n gofyn am gefnogaeth atgyfeirio eu hunain trwy broses y Tîm o Amgylch y Teulu (TAT). Yn ychwanegol at hyn, croesewir atgyfeiriadau TAT gan unrhyw weithiwr o ddisgyblaeth arall sy'n gweithio gyda phlentyn, unigolyn ifanc neu deulu sydd, yn eu barn hwy, angen cefnogaeth ychwanegol.

I gael rhagor o wybodaeth, gallwch gysylltu â ni ar: 01874 614069 yn ne Powys neu 01686 614 078 yng ngogledd Powys, neu anfon e-bost at: caf.admin@powys.gov.uk