Rhoi sêl bendith i gynlluniau Glantwymyn

13 Rhagfyr 2017 |
Mae cynlluniau i atgyfnerthu ffederasiwn ysgolion cynradd Cymraeg yng ngogledd Powys wedi cymryd cam pwysig ymlaen yn dilyn cymeradwyo cynlluniau am adeilad newydd.
Mae Cyngor Sir Powys yn buddsoddi £2.8 miliwn yn ffederasiwn Glantwymyn, Carno a Llanbrynmair gydag ysgol newydd, adeiladu estyniad a gwaith adnewyddu ar y tri champws.
Mae'r cyngor sir wedi rhoi caniatâd cynllunio i ran gyntaf y gwaith yn Ysgol Glantwymyn ac mae disgwyl i'r gwaith ddechrau yn y gwanwyn.
Bydd y gwaith yn Ysgol Glantwymyn yn cynnwys tai bach newydd i'r anabl, lle gweinyddol newydd i wella mesurau diogelu, gwella'r man gollwng a'r maes parcio ac ardal gemau aml-ddefnydd.
Dywedodd yr Aelod Cabinet ar faterion Addysg, y Cynghorydd Myfanwy Alexander: "Mae hwn yn garreg filltir bwysig yn y prosiect hwn sy'n dangos bod dyfodol go iawn i'n hysgolion pentref trwy gydweithio i gynnig profiadau dysgu o ansawdd uchel i'n dysgwyr. Gyda'r buddsoddiad hwn, mae Cyngor Sir Powys a Llywodraeth Cymru'n dangos hyder yn Ysgol Glantwymyn a'r ffederasiwn cyfan."
Cyflwynwyd cais am arian i Lywodraeth Cymru dros yr haf ar ôl i'r Cabinet glywed nad oedd cyflwr adeiladau'r tri safle'n ddigon da a bod angen buddsoddiad sylweddol i'w gwella.
Bydd Cyngor Sir Powys a Llywodraeth Cymru'n talu hanner y cyfanswm o £2.8m a fydd yn golygu codi adeilad parhaol ger y ganolfan gymuned yng Ngharno yn lle'r ystafelloedd dosbarth symudol. Bydd Cymdeithas Hamdden Carno hefyd yn cyfrannu £500,000 at y prosiect trwy ddwylo Ymddiriedolaeth Fferm Wynt Carno.
Bydd y cyngor yn trafod y cais cynllunio ar gyfer prosiect Carno yn y flwyddyn newydd.
Cafodd cais am fân waith adnewyddu yn Ysgol Llanbrynmair ei wrthod gan Lywodraeth Cymru oherwydd bod yr adeilad mewn cyflwr da. Ond mae cynlluniau ar waith i ddatblygu lle penodol i'r Blynyddoedd Cynnar a fydd yn dod o goffrau Cyngor Sir Powys.
Mae'r ffederasiwn wedi bod ar waith ers 2014 gydag un corff llywodraethu, un tîm arweinyddiaeth a Phennaeth newydd, gyda 157 o ddisgyblion ar draws y tri safle.