Parcio am ddim dros y Nadolig

13 Rhagfyr 2017 |
Bydd Cyngor Sir Powys yn cynnig parcio am ddim yn ei feysydd parcio talu ac arddangos dros ddau ddiwrnod siopa pwysig yn yr wythnosau cyn y Nadolig.
Mae'r fenter yn dilyn cynlluniau parcio am ddim llwyddiannus blaenorol. Mae'r Cyngor yn cynnig parcio am ddim ar ddydd Sadwrn 16 a dydd Sadwrn 23 Rhagfyr rhwng 10am a 6pm dros y Nadolig.
Dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Rosemarie Harris a'r Cynghorydd Liam Fitzpatrick, Aelod y Cabinet ar faterion Priffyrdd: "Rydym yn falch o fedru cadarnhau y bydd menter parcio am ddim y cyngor yn rhedeg dros ddau ddiwrnod siopa mawr cyn y Nadolig.
"Rydym yn gwybod y bydd siopwyr a busnesau ill dau'n croesawu'r cynllun. Bydd yn rhoi hwb amserol i economi'r sir yn yr wythnosau cyn adeg siopa prysuraf y flwyddyn.
"Mae economi'r sir yn hanfodol i bawb ac mae cyfnod y Nadolig yn gallu gwneud gwahaniaeth mawr i fusnesau lu. Bydd unrhyw help i gynyddu faint o arian mae pobl yn ei wario'n fuddiol dros ben."
Mae'r fenter yn cynnwys meysydd parcio oddi ar strydoedd yn unig ac nid yw'n newid cyfyngiadau parcio wrth ymyl y ffordd. Bydd parcio am ddim mewn meysydd parcio arhosiad byr am ddwy awr ar y mwyaf.