Cyflwr y ffyrdd yn gwella

13 Rhagfyr 2017 |
Mae cyflwr y ffyrdd ym Mhowys yn parhau i wella ar ôl yr eira mawr dros y penwythnos.
Mae tîm priffyrdd Cyngor Sir Powys wedi bod yn gweithio'n galed ers y penwythnos i glirio eira oddi ar y rhwydwaith priffyrdd.
Erbyn hyn bydd y cyngor yn gweithio i symud yr eira o'r ffyrdd mwy anghysbell, ond gyda'r tywydd i barhau'n gyfnewidiol tan ddydd Sul, y priffyrdd fydd y brif flaenoriaeth.
Mae'r cyngor hefyd yn atgoffa gyrwyr bod cyflwr y ffyrdd yn parhau i fod yn anodd gyda thymheredd isel a thywydd gwlyb yn bosibl tan ddiwedd yr wythnos.
Dywedodd y Cynghorydd Liam Fitzpatrick, Aelod o'r Cabinet ar faterion Priffyrdd: "Mae'r staff priffyrdd wedi gwneud gwaith rhagorol mewn amodau heriol a hoffwn ddiolch yn fawr iddynt am eu holl ymdrechion.
"Gan fod mwyafrif y priffyrdd yn glir o eira, gallwn geisio cael gwared ar yr eira o'r ffyrdd llai a'r ardaloedd mwy anghysbell.
"Ond ein blaenoriaeth fydd y priffyrdd, ac os gawn ni dywydd garw eto, bydd rhaid i ni ganolbwyntio ar y priffyrdd.
"Rwy am atgoffa gyrwyr i fod yn ofalus wrth yrru mewn tywydd gaeafol. Mae tymheredd isel a thywydd gwlyb yn gallu effeithio ar gyflwr y ffyrdd, hyd yn oed ar ôl eu graeanu.
"Rwy'n erfyn ar yrwyr i yrru'n ofalus a gydag amynedd ac i gymryd gofal ar y ffyrdd."