Ceisio barn ar y 15 cam at lesiant

21 Rhagfyr 2017
Lobio am well band eang, gwella trafnidiaeth gyhoeddus a chynnig mwy o brentisiaethau ar draws y sir yw tri o bymtheg cam sydd wedi'u cynnwys yn y Cynllun Llesiant Drafft i Bowys, ac mae angen eich barn erbyn 11 Chwefror 2018.
Lansiodd Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Powys yr ymgynghoriad hwn ym mis Tachwedd yn ystod cynhadledd arbennig i blant. Bydd yn gyfle i ungilion, grwpiau cymunedol ac unrhyw un sydd â diddordeb ym Mhowys i roi sylw am y tro olaf ar gynllun a fydd yn llywio gwasanaethau'r sector cyhoeddus dros y ddegawd nesaf ac i genedlaethau'r dyfodol.
Gallwch weld gwybodaeth am bob un o'r 15 cam llesiant, arolwg ar-lein a chopi o'r cynllun drafft a luniwyd dan ddeddfwriaeth Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, ar y wefan www.powys.gov.uk/dweudeichdweud.
Dywedodd y Cynghorydd Rosemarie Harris, Arweinydd Cyngor Sir Powys a Chadeirydd Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Powys: "Ar yr adeg hon o'r flwyddyn ry'n ni'n meddwl am dreulio amser gyda theulu a ffrindiau ac wrth i ni feddwl ymlaen at flwyddyn newydd, ry'n ni'n tueddu i ystyried ein lles ein hunain a beth sydd ar y gweill. Mae Cynllun Llesiant Powys yn edrych at y dyfodol i Bowys fel sir a beth sydd angen i ni ei wneud i wella llesiant i bawb.
Ychwanegodd:"Mae'r Bwrdd yn ddiolchgar iawn am y sylwadau sydd eisoes wedi'n cyrraedd ni eleni am beth mae lles yn ei olygu i chi a beth yw eich barn chi ar ein gweledigaeth i Bowys yn 2040. Mae eich sylwadau wedi llunio ein cynllun drafft terfynol ac rydym am wybod a ydych chi'n cytuno gyda'r prif gamau ac a fyddan nhw'n gwneud gwahaniaeth i chi a'r teulu."