Enwebiadau ar gyfer gwobrau chwaraeon yn cau cyn bo hir
Translation Required:

5 Ionawr 2018 |
Mae Cyngor Sir Powys wedi cyhoeddi mai dim ond ychydig o ddyddiau sydd ar ôl i bobl gyflwyno eu henwebiadau ar gyfer Gwobrau Chwaraeon Blynyddol Partneriaeth Chwaraeon Brycheiniog a Maesyfed.
Mae'r gwobrau'n cydnabod a dathlu llwyddiant chwaraeon unigolion a thimau lleol sy'n ymwneud â chwaraeon ar bob lefel. Cynhelir y seremoni wobrwyo ddydd Gwener, 2 Mawrth, 2018 yn Theatr Brycheiniog, Aberhonddu.
Mae clybiau chwaraeon, adrannau AG a chyfleusterau hamdden yn cael eu hannog i anfon eu henwebiadau fel y gellir cydnabod llwyddiant chwaraeon neu gyfraniad i chwaraeon yn 2017.
Y dyddiad cau ar gyfer enwebiadau yw dydd Gwener, 12 Ionawr, 2018.
Mae yna 13 categori i gyd, gan gynnwys:
• Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn
• Personoliaeth Chwaraeon Anabl y Flwyddyn
• Chwaraewr Ifanc y Flwyddyn (14-18 oed)
• Chwaraewr Anabl Ifanc y Flwyddyn
• Chwaraewr Ifanc y Flwyddyn (Dan14)
• Tîm Chwaraeon Hyn y Flwyddyn
• Tîm Chwaraeon Iau y Flwyddyn
• Clwb Chwaraeon y Flwyddyn
• Arweinydd Chwaraeon Iau y Flwyddyn
• Hyfforddwr Chwaraeon y Flwyddyn
• Gwirfoddolwr Chwaraeon y Flwyddyn
• Cyfraniad at Addysg Gorfforol a Chwaraeon Ysgol
• Gwasanaeth Eithriadol i Chwaraeon
Cydlynir y gwobrau gan Dîm Datblygu Chwaraeon y cyngor.
Dywedodd y Cynghorydd Rachel Powell, Aelod Cabinet dros Ddatblygu Chwaraeon: "Mae'r gwobrau hyn yn ddathliad o lwyddiant chwaraeon lleol ac mae'n gyfle i gydnabod cyfraniad amhrisiadwy gwirfoddolwyr a hyfforddwyr lleol.
"Os ydych chi'n adnabod rhywun sy'n haeddu cael ei enwebu, byddwn yn eich annog i gyflwyno eich enwebiad yn gyflym."
Am ffurflen enwebu neu am ragor o fanylion, cysylltwch â'r Tîm Datblygu Chwaraeon ar 01874 612128 neu e-bostiwch sports.development@powys.gov.uk