Y cyngor i gasglu gwastraff masnachol ac ailgylchu gan gwsmeriaid Cae Post

15 Ionawr 2018 |
Mae Cyngor Sir Powys wedi cadarnhau y bydd yn casglu gwastraff masnachol ac ailgylchu sydd ar hyn o bryd yn cael ei gasglu gan Gae Post.
Bydd Tîm Ailgylchu a Gwastraff Masnachol y cyngor yn dechrau casglu gan gwsmeriaid presennol Cae Post ar ôl i'r cwmni gyhoeddi y bydd yn gorffen casglu gwastraff masnachol ar ddiwedd y mis (Ionawr).
Mae'r cyngor yn gweithio'n agos â Chae Post ger Y Trallwng i sicrhau y bydd cwsmeriaid gwastraff ac ailgylchu masnachol yn parhau i dderbyn gwasanaeth.
Mae Cae Post wedi cysylltu â'u cwsmeriaid i roi gwybod iddynt y bydd y cyngor yn dechrau casglu eu gwastraff ac ailgylchu masnachol o ddechrau mis Chwefror.
Dywedodd y Cynghorydd Phyl Davies, Aelod Cabinet ar faterion Gwastraff ac Ailgylchu: "Hoffwn sicrhau busnesau sy'n defnyddio Cae Post ar hyn o bryd y byddan nhw'n parhau i dderbyn gwasanaeth gwastraff ac ailgylchu masnachol.
"Byddwn yn gweithio gyda Chae Post dros yr wythnosau nesaf i sicrhau bod gwasanaethau'n cael eu trosglwyddo i'r cyngor mor hwylus â phosibl.
"Byddwn yn cysylltu â chwsmeriaid presennol Cae Post yn rhoi gwybod iddynt am y trefniadau newydd. Byddwn yn sicrhau bod y cwsmeriaid dan sylw'n derbyn gwasanaeth prydlon a phroffesiynol gan dîm gwastraff masnachol Cyngor Sir Powys."