Ysgol gynradd newydd gyntaf Gwernyfed wedi agor

15 Ionawr 2018 |
Bore 'ma agorodd y gyntaf o bum ysgol newydd yn ardal dalgylch Gwernyfed.
Mae staff a disgyblion Ysgol yr Eglwys yng Nghymru Archddiacon Griffiths, Llyswen wedi symud i adeilad newydd sbon ar ôl misoedd o waith adeiladu.
Mae'r ysgol hon yn rhan o Raglen gwerth £23 miliwn Ysgolion yr 21ain Ganrif ym Mhowys sy'n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a Chyngor Sir Powys (a rhywfaint o arian gan yr Eglwys yng Nghymru).
Adeiladwyd yr ysgol gynradd newydd hon sydd â lle i 150 o ddisgyblion, yn lle'r hen adeilad oedd mewn cyflwr drwg. Bydd yn cael ei ddymchwel mewn amser i greu mwy o le awyr agored.
Cynhelir seremoni agor ffurfiol yn nes ymlaen eleni.