Cwestiynau i'r Comisiynydd am gymorth awyr yr heddlu

19 Ionawr 2018 |
Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, Dafydd Llywelyn, yn cael ei holi ynghylch yr hyn y mae'n ei wneud i sicrhau bod Dyfed-Powys yn cael y cymorth angenrheidiol gan Wasanaeth Awyr Cenedlaethol yr Heddlu.
Dyma un o'r cwestiynau a gyflwynir iddo gan aelodau o Banel Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys yn eu cyfarfod yr wythnos nesaf.
Dywedodd yr Athro Ian Roffe, aelod annibynnol ac is-gadeirydd y panel, y gallai pobl ddod i'r casgliad, yn sgil canfyddiadau adroddiad diweddar ar gymorth awyr yr heddlu, nad yw Heddlu Dyfed-Powys yn cael gwerth am arian gan y gwasanaeth nac yn derbyn y cymorth amserol sydd ei angen arno.
Mae ef wedi cyflwyno cwestiwn i'r Comisiynydd, sy'n rhan o fwrdd rheoli Gwasanaeth Awyr Cenedlaethol yr Heddlu, yn gofyn iddo egluro'r hyn y mae'n ei wneud i wella'r gwasanaeth a dderbynnir gan Heddlu Dyfed-Powys.
Mae hefyd yn gofyn i'r Comisiynydd gadarnhau pa gamau y mae'n eu cymryd i archwilio ffynonellau cymorth awyr eraill, o ystyried bod yna ganolfan ragoriaeth ar gyfer defnyddio dronau di-griw yn Aber-porth yng Ngheredigion.
Nid dyma'r unig gwestiwn y mae'r Comisiynydd yn ei wynebu.
Mae Cadeirydd y panel y Cynghorydd Alun Lloyd Jones yn gofyn beth mae pobl Dyfed-Powys yn ei gael yn gyfnewid am danysgrifiad gwerth £20,000 y flwyddyn i Gymdeithas y Comisiynwyr Heddlu a Throseddu.
Ac mae'r Cynghorydd Keith Evans am gael gwybod beth mae'r Comisiynydd yn ei wneud i geisio addysgu pobl ifanc am effeithiau alcohol a chyffuriau, ac yn benodol p'un a yw'r materion sy'n codi yng Ngheredigion yn fwy nag mewn unrhyw ranbarth arall yn ardal yr heddlu.
Mae Panel Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys i fod i gwrdd am 10.30am ar 26 Ionawr yn swyddfeydd Cyngor Sir Ceredigion yn Aberaeron, ac mae croeso i aelodau o'r cyhoedd a'r wasg ddod i'r cyfarfod.
Gall aelodau o'r cyhoedd ofyn cwestiynau yn ogystal â'r panel, ond dylid eu cyflwyno o flaen llaw, naill ai'n ysgrifenedig neu drwy wefan y panel www.panelheddluathroseddudp.cymru