Llwybr beicio newydd i Ystradgynlais

23 Ionawr 2018 |
Mae'r cyngor wedi cadarnhau y bydd gwaith i dorri llwybr beicio newydd mewn tref yn ne Powys yn dechrau yn ddiweddarach y mis hwn.
Mae Cyngor Sir Powys wedi derbyn cyllid Llywodraeth Cymru i adeiladu'r llwybr newydd i feiciau yn Ystradgynlais.
Disgwylir i'r gwaith, a fydd yn para oddeutu pum niwrnod, ddechrau ddydd llun 29 Ionawr.
Bydd y llwybr newydd yn cysylltu'r llwybr beicio, a fydd yn dilyn hynt yr A4067, â'r rhwydwaith llwybrau troed presennol.
Bydd y llwybr newydd yn 75 metr o hyd ac yn ddau fetr o led, a bydd wyneb tarmac arno fel bod modd ei ddefnyddio gydol y flwyddyn. Bydd gwaith ychwanegol hefyd yn cael ei wneud i wella'r draenio ac i leihau'r risg o lifogydd ar hyd y llwybr newydd.
Dywedodd y Cyng Liam Fitzpatrick, Aelod Portffolio'r Cabinet ar faterion Priffyrdd: "Rwy'n falch fod y gwaith ar y llwybr beicio newydd yma yn Ystradgynalis ar fin dechrau.
"Rwy'n gobeithio pan fydd y gwaith o dorri'r llwybr wedi dod i ben y bydd hyn yn annog rhagor o bobl i gerdded neu feicio i'r ysgol ac i'r amwynderau lleol yn y dref, ac yn helpu trigolion i fyw bywydau mwy iach"