1. Logio Mewn / Cofrestru
  2. English
Close Icon
  1. Logio Mewn / Cofrestru
Hysbysiad: Adroddiad arolwg Estyn o Awdurdod Addysg Powys wedi'i gyhoeddi
Darllen mwy

Galw am enwebiadau ar gyfer Oriel Anfarwolion Sir Frycheiniog a Sir Faesyfed

Translation Required:

Image cynrychioli Galw am enwebiadau ar gyfer Oriel Anfarwolion Sir Frycheiniog a Sir Faesyfed
24 Ionawr 2018 

Image of people playing basketballMae Partneriaeth Chwaraeon Brycheiniog a Maesyfed yn chwilio am enwebiadau ar gyfer Oriel Anfarwolion cyntaf fydd yn cael ei datgelu mewn noson wobrwyo ym mis Mawrth.

Bydd Oriel yr Anfarwolion yn rhoi cyfle i daflu goleuni ar arwyr chwaraeon Powys y gorffennol gan ysbrydoli'r to nesaf ar yr un pryd. Bydd y seremoni wobrwyo'n cael ei chynnal ddydd Gwener, 2 Mawrth 2018 yn Theatr Brycheiniog, Aberhonddu.

Dywedodd y Cynghorydd Rachel Powell, Aelod y Cabinet ar faterion Datblygu Chwaraeon: "Rwyf wrth fy modd o glywed bod Partneriaeth Chwaraeon Brycheiniog a Maesyfed wedi cyflwyno Oriel yr Anfarwolion fel rhan o wobrwyon chwaraeon. Mae hyn yn rhoi cyfle i ddathlu rhagoriaeth ym myd y campau a chydnabod cyflawniadau hanesyddol yn ein sir."

I gael ffurflen enwebu neu am fwy o fanylion cysylltwch â'r Tîm Datblygu Chwaraeon drwy ffonio 01874 612335 neu anfonwch e-bost i sports.development@powys.gov.uk

Rhaid i enwebiadau gyrraedd y swyddfa cyn pen dydd Gwener, 16 Chwefror 2018.

Rhannwch y dudalen hon

Facebook icon Twitter icon Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu