Phwyllgor Rhanbarthol

25 Ionawr 2018 |
Mae cost democratiaeth ym Mhowys wedi cael ei dorri diolch i benderfyniad hanesyddol gan y cyngor sir.
Cytunodd y cyngor mewn cyfarfod yn Llandrindod, i gael gwared ar y tri phwyllgor Rhanbarthol ar ddiwedd y flwyddyn ddinesig ym mis Mai, gan arbed £175,000 i'r awdurdod unedol dros oes y cyngor.
Dywedodd Aelod y Cabinet dros faterion Cyfathrebu, y Cynghorydd James Evans; "Mae'r pwyllgorau sirol yn adlewyrchiad o'r hen gynghorau dosbarth a ddiflannodd dros 20 mlynedd yn ôl. Mae eu defnyddioldeb dros y blynyddoedd wedi cael ei gydnabod. Fodd bynnag, maen nhw'n foethusrwydd na allwn ei fforddio mwyach.
"Mae'r cyngor sir yn wynebu pwysau ariannol difrifol a bydd yn rhaid iddo newid y ffordd y mae'n gweithio os yw i ddarparu gwasanaethau o fewn yr adnoddau sydd ar gael. Ni allwn fforddio'r math o gyngor sir ry'n ni wedi'i gael yn y gorffennol, mae'n rhaid i ni newid.
"Trwy ddileu'r pwyllgorau rhanbarthol ry'n ni fel cynghorwyr yn arwain trwy esiampl, gan ddangos ein bod yn cydnabod bod angen newid er budd cyflenwi gwasanaethau a gwerth am arian i drethdalwyr y cyngor.
"Ni fydd cael gwared ar y pwyllgorau rhanbarthol yn gwanhau democratiaeth, bydd yn ei atgyfnerthu a byddwn yn gweithio'n ddiflino i wella'r ffordd y caiff democratiaeth ei chyflwyno trwy ddefnyddio technoleg newydd. Roedd llawer o'r cynghorwyr â meddwl mawr o'r pwyllgorau rhanbarthol ond bydd eu diddymu yn caniatáu gwell defnydd o adnoddau gwerthfawr," ychwanegodd.