Gwaith lledu llwybrau troed yn Llandrindod

7 Chwefror 2018 |
Cyhoeddodd Cyngor Sir Powys y bydd gwaith yn cychwyn yn Llandrindod ar ddiwedd y mis i ledu llwybrau troed fel rhan o fenter teithio llesol.
Bydd y gwaith yn digwydd ar Spa Road ac yn cychwyn dydd Llun, 19 Chwefror. Cwmni Dawnus Construction sy'n gwneud y gwaith a fydd yn cymryd rhwng pedair a chwe wythnos i'w orffen.
Bydd y gwaith yn cynnwys lledu rhannau o'r llwybr troed ar hyd Spa Road i safonau teithio llesol a chreu lle croesi diogel dros Spa Road.
Mae'r cyngor yn gofyn i drigolion ac ymwelwyr beidio parcio ar y ffordd yn ystod y dydd dros gyfnod y gwaith.
Dywedodd y Cynghorydd Liam Fitzpatrick, Aelod Cabinet ar faterion Priffyrdd: "Mae'r gwaith yn rhan hanfodol o raglen teithio llesol y cyngor a bydd yn gwella diogelwch ar y ffyrdd ac i gerddwyr yn yr ardal.
"Bydd yn creu llwybr diogel di-dor yn cysylltu canol y dref a'r llyn - a oedd yn un o flaenoriaethau'r adroddiad 'Gateway' - a gwella cyfleusterau ar gyfer teithio llesol.
"Fe wnawn ein gorau glas i beidio amharu gormod dros gyfnod y gwaith ac yn ymddiheuro i drigolion a gyrwyr am unrhyw drafferth.
"Hoffwn ddiolch i Lywodraeth Cymru am ariannu'r gwaith hwn. Mae'r buddion o ddarparu llwybrau diogel i'n cymunedau ni'n anferth gan helpu pobl fyw'n iach."