Gwaith i osod wyneb newydd ar y ffordd drwy Drefaldwyn

13 Chwefror 2018 |
Mae gyrwyr wedi cael eu rhybuddio y bydd ffordd yng ngogledd Powys yn cael ei chau yn ystod y dydd am bum niwrnod yn hwyrach y mis hwn er mwyn gwneud gwaith i osod wyneb newydd ar y ffordd.
Mae Cyngor Sir Powys wedi cyhoeddi'r rhybudd cyn cau'r B4385 yn ystod y dydd trwy Drefaldwyn.
Bydd y gwaith i osod wyneb newydd ar y ffordd yn para pedwar diwrnod ac yn dechrau am 9am ddydd Llun, 26 Chwefror. Bydd y ffordd yn ail agor bob nos am 5pm a disgwylir i'r gwaith gael ei gwblhau erbyn 5pm ddydd Iau, 1 Mawrth.
Bydd bysiau yn parhau i ddefnyddio'r ffordd tra bod y gwaith yn cael ei wneud. Bydd hefyd cyfyngiadau parcio ar hyd Stryd Lydan fel bod y bysiau yn gallu teithio a chynnal gwasanaeth bws lleol.
Dywedodd y Cynghorydd Liam Fitzpatrick, Aelod Cabinet ar faterion Priffyrdd: "Fe fydd yn rhaid i ni gau'r ffordd yn ystod y dydd oherwydd lled gyfyngedig y ffordd.
"Bydd angen cau'r ffyrdd fel bod ein contractwyr a'u staff yn gallu gwneud y gwaith yn ddiogel.
"Bydd arwyddion yn dangos y gwyriad a bydd y ffordd yn ail-agor bob nos.
"Mae'n ddrwg gennym am unrhyw anghyfleustra y bydd hyn yn ei achosi ond rwy'n siwr y bydd gyrwyr yn gwerthfawrogi'r wyneb newydd ar y ffyrdd pan fydd y gwaith wedi'i gwblhau."