Grant £1 miliwn gan y Loteri Fawr yn helpu cynllun arloesol y Drenewydd

15 Chwefror 2018 |
Mae consortiwm o wirfoddolwyr, mentrau cymunedol a sefydliadau lleol wedi llwyddo i ennill nawdd gwerth £1.1 miliwn gan raglen Trosglwyddo Asedau Cymunedol y Loteri Fawr. Daeth consortiwm 'Going Green for a Living' ynghyd mewn ymateb i alwad gan Gyngor Tref y Drenewydd a Llanllwchaearn i edrych ar ddulliau newydd a mwy cynaliadwy o reoli mannau agored y Drenewydd h.y. sut y gallai'r gymuned greu gwell bywoliaeth o'n hasedau gwyrdd a glas?
Mae Cyngor Sir Powys a Llywodraeth Cymru, perchnogion tir a phartneriaid allweddol yn y prosiect, wedi cynnig daliadaeth ddiogel hir dymor ar gyfer tua 130 erw o dir, i'w gynnal mewn Ymddiriedolaeth Tir Cymunedol. Dyma un o drosglwyddiadau asedau cymunedol mwyaf o dir amwynder yng Nghymru.
Roedd Stuart Owen, Cadeirydd 'Going Green for a Living', yn falch dros ben o gyhoeddi'r newyddion gwych yma. "Ffordd o wneud pethau'n wahanol, o fuddsoddi yn ein mannau agored a datblygu cyfleoedd economaidd a chymdeithasol ar gyfer y dref yw'r prosiect hwn. Bydd y Drenewydd yn arloesi dull newydd o weithio, yn edrych ar sut y gellir rheoli mannau agored gyda mwy o ddychymyg gan y cymunedau sy'n eu defnyddio er mwyn darparu rhagor o fuddion i drigolion ac ymwelwyr. Mae hwn yn ateb sydd wedi dod o lawr gwlad ar ôl gweithio gyda dwsinau o grwpiau gwirfoddolwyr lleol a sefydliadau am y 18 mis diwethaf er mwyn gwireddu'r freuddwyd hon. Mae hwn yn gyfle cyffrous i roi'r Drenewydd 'ar y map'. Nod ein prosiect yw ysgogi'r defnydd o asedau naturiol i gyflawni buddion positif".
Aeth Stuart ymlaen i esbonio "Ar yr un pryd a chadw a gwella'r mannau agored hardd, mae'r cynlluniau'n cynnwys creu mynediad i'r afon ar gyfer chwaraeon padlo a physgota, darparu cyfleusterau i ieuenctid; llwybr BMX, parciau chwarae gwell, adeiladu Llwybr Beicio Mynydd, gwell ardaloedd picnic, llwybrau treftadaeth a natur, mannau i dyfu bwyd ac adeiladu canolfan gymunedol i hwyluso a galluogi mynediad i'n mannau gwyrdd. Bydd gwarchod a gwella'r fioamrywiaeth a bywyd gwyllt arbennig sydd yn ein tref o bwysigrwydd mawr a bydd hyn yn nodwedd a fydd yn rhedeg ar draws y prosiect cyfan."
Dywedodd y Cynghorydd Sue Newham, Maer y Drenewydd, "Mae'r Cyngor Tref yn falch o fod mewn sefyllfa i gymryd cyfrifoldeb am y tir oddi wrth Gyngor Sir Powys ac mae hyn wedi galluogi 'Going Green for a Living' i wneud cais am £1.1m. Fel landlordiaid, ry'n ni'n edrych ymlaen at weithio gyda 'Going Green' yn y dyfodol. Ry'n ni'n gwybod o ganlyniad i ymgynghori gyda phobl leol bod y mannau gwyrdd a'r afon yn bwysig iawn iddyn nhw. Wrth i gyllidebau awdurdodau lleol lleihau, ry'n ni gyd wedi gweld gwaith cynnal a chadw o'r parciau'n lleihau hefyd. Dyma ein cyfle ni fel Cyngor Tref i fod yn rhan o rywbeth gwahanol. Mae'n gyfle i bobl Drenewydd i gymryd perchnogaeth a rheolaeth o'r pethau maen nhw'n eu gwerthfawrogi."
Dywedodd y Cynghorydd Phyl Davies, Aelod Cabinet ar faterion Eiddo Cyngor Sir Powys: "Rwy'n falch o gyfraniad Cyngor Sir Powys i'r prosiect hwn, trwy gytuno i roi prydles am ardal o dir hamdden yn y Drenewydd sydd bron yr un maint â Dinas y Fatican, ry'n ni wedi galluogi'r gymuned i fod yn llwyddiannus yn y cais cyffrous yma. Mae'r weledigaeth ar gyfer y parc yn golygu y bydd y cyfleusterau hamdden yn gwella bywydau'r gymuned leol ac yn denu ymwelwyr newydd i'r ardal."
Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi Ken Skates: "Mae'n hyfryd bod y gymuned wedi dod at ei gilydd yn y Drenewydd i wneud yn siwr bod pawb yn gallu elwa o'r mannau gwyrdd yn y dref. Mae'n newyddion rhagorol bod y cais am gyllid o Gronfa'r Loteri Fawr wedi bod yn llwyddiannus ac rwy'n falch bod Llywodraeth Cymru wedi gallu cyfrannu trwy ddyrannu rhan o'r tir ar gyfer y cynllun hwn."
Aeth Stuart Owen ymlaen i ddweud "Mae'r prosiect a ariennir gan y Loteri yn gyfle datblygu dros 5 mlynedd a fydd yn gweld dros £1.9m yn cael ei fuddsoddi o fewn ffin tref y Drenewydd. Fodd bynnag, mae'n rhaid i fannau agored ddod yn hunangynhaliol i fod yn enghraifft lwyddiannus i eraill ddysgu ohono. Er ein bod ni'n gwybod am y buddion cyhoeddus enfawr o agweddau megis awyr iach ac ymarfer corff mae hefyd cyfleoedd mentergarwch ar gyfer busnesau'r dref wrth i ni ddatblygu cyfleoedd am ddigwyddiadau, chwaraeon, hamdden ac ar gyfer economi bwyd lleol."
Dywedodd John Rose, Cyfarwyddwr Cymru, Cronfa'r Loteri Fawr: "Roedd y rhaglen CAT yn llwyddiant mawr yn grymuso cymunedau ar draws Cymru i ddefnyddio adeiladau a thir yn ôl yr hyn oedd yn addas i'w hanghenion. Ry'n ni wedi cymryd yr hyn a ddysgwyd o CAT ac adeiladu arno i ddatblygu CAT2 yn rhaglen sy'n diwallu anghenion cymunedau yng Nghymru.
"Nod rhaglen CAT2 yw creu rhagor o gymunedau cynaliadwy; cefnogi trosglwyddo asedau i sefydliadau arloesol sy'n cynnwys ac yn elwa'r cymunedau y maen nhw'n eu gwasanaethu. Y nod yw gwella gwasanaethau a chyfleusterau ar gyfer cymunedau cynaliadwy yng Nghymru."
Daeth sylwadau Stuart i ben trwy ddweud "Mae cefnogaeth y Loteri - sy'n bosibl dim ond trwy'r rheiny sydd ynghlwm â'r Loteri Genedlaethol - yn gymeradwyaeth o allu a medr y Drenewydd. Mae ein prosiect yn enghraifft wych o sut mae'r arian yma'n cael ei roi at ddefnydd da. Gyda chynllun buddsoddi pum mlynedd, nawr yw'r amser i fusnesau a chymunedau'r dref i gamu ymlaen a chodi eu lleisiau. Yn ystod y tri mis nesaf bydd 'Going Green for a Living' yn hyrwyddo'r prosiect ac yn gwahodd pobl i ymuno yn ei lwyddiant."
Os hoffech chi wybod rhagor gallwch anfon neges e-bost at 'Going Green for a Living' yn goinggreennewtown@gmail.com, neu ewch i dudalen Facebook 'Newtown Unlimited' www.facebook.com/NewtownCommunityGroup. Bydd rhagor o wybodaeth yn ymddangos ar y dudalen Facebook yma.