Newidiadau i gasgliadau biniau'n dechrau'r wythnos hon

26 Chwefror 2018 |
Mae'r Cyngor Sir wedi datgan y bydd dyddiau casglu biniau ym Mhowys yn newid ar gyfer y rhan fwyaf o gartrefi'r wythnos hon.
Mae Cyngor Sir Powys wedi gwella'r llwybrau casglu gwastraff ac ailgylchu i'w gwneud yn fwy effeithlon. Bydd y llwybrau newydd yn helpu'r cyngor i leihau'r costau o ddarparu'r gwasanaethau hyn i drigolion.
Mae'r llwybrau casglu'n dechrau heddiw, dydd Llun 26 Chwefror 2018.
Dim ond y diwrnod casglu fydd yn newid, bydd y cyngor yn parhau i gasglu deunyddiau ailgylchu a gwastraff bwyd yn wythnosol a gwastraff na ellir ei ailgylchu bob tair wythnos.
Bydd angen i drigolion rhoi eu gwastraff a deunyddiau ailgylchu allan yn barod i'w casglu erbyn 7.30am ar y diwrnod casglu hyd yn oed os nad yw'r diwrnod casglu yn newid, oherwydd mae'n debygol y bydd amser y casgliad yn wahanol i'r trefniant blaenorol.
Dywedodd y Cyng Phyl Davies, Aelod Cabinet ar faterion Gwastraff ac Ailgylchu: "O ystyried y newidiadau niferus sydd wedi digwydd ers dechrau'r llwybrau casglu presennol, nid ydynt mor effeithlon ag y gallent fod.
"Mae llawer o waith wedi cael ei wneud i sicrhau bod ein llwybrau casglu gwastraff ac ailgylchu mor effeithlon ag y gallent fod ond mae hyn yn golygu y bydd diwrnodau casglu nifer o aelwydydd yn newid.
Byddwn yn gofyn i drigolion fwrw golwg ar eu llythyr sy'n egluro'r diwrnod casglu newydd i sicrhau eu bod yn gadael eu biniau allan ar y diwrnod cywir.
Mae trigolion yn gallu gwirio pryd mae eu diwrnod casglu newydd ar ein dolen hwylus yma www.powys.gov.uk/ailgylchu