Gwella cilffordd Ystrad Fflur

27 Chwefror 2018 |
Mae'r Cyngor Sir wedi adnewyddu rhan o gilffordd boblogaidd yng nghanol Powys.
Yn ddiweddar gorffennodd tîm Gwasanaethau Cefn Gwlad y gwaith o atgyweirio rhan o gilffordd Ystrad Fflur ger Abergwesyn, Llanwrtyd.
Mae'r llwybr yn gilffordd sydd ar agor i bob traffig ac mae'n boblogaidd gyda cherbydau modur. Mae'n mynd ar hyd Mynyddoedd Cambria a thrwy Goedwig Tywi rhwng Powys a Cheredigion.
Fel rhan o'r gwaith agorwyd ffosydd draeniad a oedd wedi cael eu cau a'u tagu. Hefyd llanwyd pydewau gan ddefnyddio graean ar hyd y llwybr hyd at Goedwig Tywi o Fferm Nant Ystalwen. Gwnaed y gwaith gan y contractwr lleol RF Price o Hawy, Llandrindod.
Dywedodd y Cynghorydd Jonathan Wilkinson, Aelod y Cabinet ar faterion Gwasanaethau Cefn Gwlad: "Bydd pawb sy'n teithio ar hyd llwybr Ystrad Fflur yn rheolaidd yn croesawu'r gwaith ar y rhan 2.5 cilomedr hon o'r gilffordd.
"Mae ein tîm Gwasanaethau Cefn Gwlad yn bwriadu dychwelyd i'r safle ym misoedd yr haf i barhau â'r gwaith cynnal a chadw trwy Goedwig Tywi ac ymlaen i'r ffin â Cheredigion.
"Mae'n rhaid i bawb sylweddoli cymaint yw pwysigrwydd cynnal ein hawliau tramwy. Gall ein rhwydwaith llwybrau cyhoeddus fod yn hanfodol wrth gynnal iechyd a lles pobl Powys."