Gosod pompren newydd yn Ystradgynlais

27 Chwefror 2018 |
Mae Cyngor Sir Powys wedi gosod pompren newydd ar lwybr poblogaidd.
Rhoddodd tîm Gwasanaethau Cefn Gwlad Cyngor Sir Powys bompren ar y llwybr cyhoeddus sy'n mynd ar draws Parc Diemwnt yn Ystradgynlais ac ymlaen i Warchodfa Natur Wern Plemys. Adeiladwyd pont newydd ar safle'r un blaenorol, a oedd yn hen ac wedi dirywio a gwanhau.
Gosodwyd seiliau newydd cyn rhoi'r bompren newydd yn ei lle. Darparwyd y seiliau gan Caerfagu Products o Nantmel.
Dywedodd y Cynghorydd Jonathan Wilkinson, Aelod y Cabinet ar faterion Gwasanaethau Cefn Gwlad: "Rwyf wrth fy modd y bydd cerddwyr yn yr ardal hon yn elwa oherwydd y bompren newydd.
"Roedd mynd at y safle'n heriol i ein staff Gwasanaethau Cefn Gwlad. Ond mae eu gwaith wedi rhoi gwelliant yr oedd gwir angen amdano i'r llwybr cerdded poblogaidd hwn yn ardal Ystradgynlais.
"Mae'n rhaid i bawb sylweddoli cymaint yw pwysigrwydd cynnal ein hawliau tramwy. Gall ein rhwydwaith llwybrau cyhoeddus fod yn hanfodol wrth gynnal iechyd a lles pobl Powys."