Problemau posibl oherwydd tywydd gaeafol

28 Chwefror 2018 |
Mae trigolion yn cael eu rhybuddio y gallai gwasanaethau'r cyngor gael eu heffeithio gan yr eira trwm sydd i fod taro'r sir yfory (dydd Iau, 1 Mawrth).
Anogir rhieni i edrych ar www.powys.gov.uk/cy/ysgolion-a-myfyrwyr/i-wybod-a-yw-ysgol-ar-agor-neu-ar-gau/ neu i gysylltu â'u hysgol i weld os yw hi ar gau.
Anogir preswylwyr i gysylltu â'r cyngor mewn achos o argyfwng yn unig.
Am y newyddion diweddaraf am gyflwr y ffyrdd, casgliadau ailgylchu a chau ysgolion, edrychwch ar dudalennau Twitter y cyngor @powyscc / @cspowys neu ewch i'r wefan - www.powys.gov.uk