1. Logio Mewn / Cofrestru
  2. English
Close Icon
  1. Logio Mewn / Cofrestru
Hysbysiad: Wyddoch chi y gallwch fenthyg cit casglu sbwriel wrthym ni a helpu i gadw Powys yn lân
Darllen mwy

Ffilm wedi'u hanimeiddo

Image cynrychioli Ffilm wedi'u hanimeiddo
12 Mawrth 2018 

Image of some syrian refugees

Fisoedd yn unig ar ôl symud i Ystradgynlais, mae ffoaduriaid o Syria wedi ymuno ag ysgol leol i greu dwy ffilm wedi'u hanimeiddio am eu profiadau.

Mae'r teuluoedd wedi bod yn gweithio gydag Ysgol Maesydderwen, Ysgol y Glowyr, Neuadd Les y Glowyr a'r cwmni animeiddio enwog 'Winding Snake Productions' i gynhyrchu dwy ffilm a fydd yn cael eu dangos am y tro cyntaf nos Iau (15 Mawrth).  Mae Sefydliad Celf Josef Herman hefyd yn bartner yn y prosiect.

Ariannwyd y gwaith gan Ffilm Cymru Wales ac mae'r ffilmiau hyn yn sôn am y croeso gafodd y teuluoedd hyn yn Ystradgynlais a sut iddynt gael lloches yn y dref.

Mae o leiaf chwech o deuluoedd wedi setlo yn y dref yng Nghwm Tawe dros y 18 mis diwethaf a dyma'r ail ddigwyddiad diwylliannol i'w gynnal yn y Neuadd Les.

Bydd y ffilmiau'n cael eu sgrinio am 6 pm ac mae croeso i bawb.  Am fwy o wybodaeth, ewch i www.thewelfare.co.uk

 

Rhannwch y dudalen hon

Facebook icon Twitter icon Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu