Ffilm wedi'u hanimeiddo

12 Mawrth 2018 |
Fisoedd yn unig ar ôl symud i Ystradgynlais, mae ffoaduriaid o Syria wedi ymuno ag ysgol leol i greu dwy ffilm wedi'u hanimeiddio am eu profiadau.
Mae'r teuluoedd wedi bod yn gweithio gydag Ysgol Maesydderwen, Ysgol y Glowyr, Neuadd Les y Glowyr a'r cwmni animeiddio enwog 'Winding Snake Productions' i gynhyrchu dwy ffilm a fydd yn cael eu dangos am y tro cyntaf nos Iau (15 Mawrth). Mae Sefydliad Celf Josef Herman hefyd yn bartner yn y prosiect.
Ariannwyd y gwaith gan Ffilm Cymru Wales ac mae'r ffilmiau hyn yn sôn am y croeso gafodd y teuluoedd hyn yn Ystradgynlais a sut iddynt gael lloches yn y dref.
Mae o leiaf chwech o deuluoedd wedi setlo yn y dref yng Nghwm Tawe dros y 18 mis diwethaf a dyma'r ail ddigwyddiad diwylliannol i'w gynnal yn y Neuadd Les.
Bydd y ffilmiau'n cael eu sgrinio am 6 pm ac mae croeso i bawb. Am fwy o wybodaeth, ewch i www.thewelfare.co.uk