Gwasanaethau Plant

13 Mawrth 2018 |
Clywodd cabinet y cyngor sir heddiw bod gwasanaethau plant ym Mhowys yn gwella ond bod rhagor o waith i'w wneud.
Clywodd y cabinet, oedd yn cwrdd yn Llandrindod heddiw, bod Bwrdd Gwella annibynnol wedi adrodd ar ddiwedd mis Chwefror, am gynnydd arwyddocaol wrth roi'r seilwaith angenrheidiol yn ei le gydag arweinyddiaeth, cyllid a rheoli perfformiad cryfach.
Roedd hefyd arwyddion cynnar o gynnydd yn y gwaith recriwtio staff ac o welliannau mewn arferion gwaith cymdeithasol. Fodd bynnag, mae rhagor o waith sylweddol i'w wneud yn y maes hwn. Mae arferion gwaith cymdeithasol o safon yn allweddol i wella'r gwasanaeth ac i gyflawni'r canlyniadau a osodwyd yng nghynllun gwella'r cyngor ar gyfer gwasanaethau plant.
Mae'r cynllun yn amlinellu'n dda y camau gweithredu sydd angen eu blaenoriaethu, gan gynnwys ffocws cyffredinol ar hawliau'r plentyn. Mae'r cynllun yn dynodi'r meysydd lle mae angen buddsoddiad i gefnogi arfer gorau ac i ddiogelu plant. Mae'r Gyllideb ar gyfer 2018/19, a gytunwyd gan y Cyngor ar 22 Chwefror, yn cynnwys buddsoddiad o £6.172 miliwn ar gyfer gwasanaethau plant. Mae hyn yn cynrychioli cynnydd o 47 y cant.
Dywedodd y Cynghorydd Rachel Powell, Aelod y Cabinet ar faterion Plant, bod yr adroddiad a ymddangosodd yn y cyfryngau dros y penwythnos yn honni bod y gwasanaeth yn anghynaladwy oherwydd problemau staffio yn anghywir, ac yn seiliedig ar ddata hanesyddol o fis Hydref i fis Rhagfyr 2017.
"Mae ein gwybodaeth gyfredol yn dangos bod gan wasanaethau plant 360 o aelodau o staff. O'r rhain mae 88 y cant yn swyddi parhaol neu swyddi dros gyfnod penodol a'r gweddill yn staff asiantaeth neu achlysurol. Daeth y rhan fwyaf ohonynt i mewn i gefnogi gwasanaethau rheng flaen yn dilyn arolygiad y llynedd. Ym mis Chwefror, roedd 15 aelod o staff yn absennol oherwydd salwch, a chollwyd 108 o ddiwrnodau gwaith.
"Mae gwasanaethau plant yn flaenoriaeth gorfforaethol ac mae ein cynlluniau adfer wedi cael eu derbyn gan Arolygiaeth Gofal Cymru a Llywodraeth Cymru. Mae gennym Fwrdd Gwella ac maen nhw'n cofnodi gwelliannau er yn derbyn bod llawer o waith i'w wneud.
"Maen nhw'n adrodd bod arwyddion cynnar iawn o welliannau mewn arferion gwaith cymdeithasol, megis amserlenni ar gyfer cwblhau asesiadau, amlder ymweliadau statudol a gwaith uniongyrchol gyda phobl ifanc. Fodd bynnag, mae'n wir fod rhagor o waith sylweddol yn para angen ei wneud yn y maes hwn.
"Ry'n ni'n gwybod bod yna waith i'w wneud ond ry'n ni'n hollol ymroddedig i ddatblygu a chyflawni'r safon o wasanaeth mae ein teuluoedd ei angen," ychwanegodd.