Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwneud cais am dŷ cymdeithasol

RHESTR AROS AM DŶ
Cofiwch, os byddwch yn galw'r Gwasanaeth Tai, ni fyddwn yn gallu dweud ymhle rydych chi ar y rhestr aros na faint byddwch yn gorfod aros am dŷ. Pan fyddwch yn cyrraedd top y rhestr aros, bydd y darparwr yn cysylltu â chi (un ai Cyngor Sir Powys neu un o'r Cymdeithasau Tai) un dros y ffôn, neges destun neu e-bost.Mae'n hanfodol eich bod yn diweddaru eich manylion cyswllt ar eich cais am gartref ym Mhowys.  Bydd methu gwneud hynny'n golygu y gallech golli allan ar gartref newydd a chau lawr eich cais. I ddiweddaru eich cais am dŷ, ewch i: www.homesinpowys.org.uk
Bydd angen i chi fewngofnodi ar y wefan gan ddefnyddio eich cyfeirnod, eich dyddiad cofiadwy a'ch cyfrinair, yna clicio ar y ddolen  "Diweddaru eich cais ar y gofrestr tai". Cofiwch gadw eich manylion mewngofnodi'n ddiogel er mwyn gallu mewngofnodi a diweddaru eich amgylchiadau pan fydd angen.

Mae Cyngor Sir Powys a saith cymdeithas tai yn aelodau o bartneriaeth Cofrestr Tai Cyffredin Powys 'Cartrefi ym Mhowys'.

Mae pob tŷ cymdeithasol ym Mhowys yn cael ei gynnig i bobl trwy un Gofrestr Tai Cyffredin a Chynllun Dyrannu Tai Cyffredin sy'n cael ei ddefnyddio wrth ddyrannu tai cyngor a thai cymdeithasau tai.

Os ydych am ymuno â'r Gofrestr Tai Cyffredin, gallwch anfon cais ar-lein am dŷ trwy'r dudalen  Cartrefi ym MhowysOs oes angen ichi wneud unrhyw newidiadau neu ddiweddaru eich cais, gellir mewngofnodi yma.

Trwy lenwi'r cais ar-lein, bydd rhyddid i chi roi gwybod am unrhyw newid yn eich amgylchiadau, gwirio beth oedd band eich cais neu ofyn i gau eich cais trwy eich cyfrif ar-lein unrhyw bryd.

Gall unrhyw un sy'n 16 oed neu'n hŷn wneud cais am dŷ, er efallai na fydd rhai grwpiau yn gymwys.

Bydd pob cais yn cael ei asesu a'i ddilysu gan Swyddog Gweinyddu Tai. Ar ôl ei ddilysu, byddwch yn derbyn cadarnhad o'ch cyfeirnod mewn perthynas â'ch cais am dŷ a bydd eich cais yn cael ei roi mewn un o bum Band Blaenoriaeth.

Pan ddaw eiddo addas ar gael, bydd cynnig ffurfiol yn cael ei wneud fel arfer dros y ffôn. Os nad oes ateb i alwad ffôn, anfonir neges destun a / neu e-bost. Os na fyddwch yn cysylltu cyn pen dau ddiwrnod gwaith ar ôl i'r cynnig gael ei wneud, caiff y cynnig ei dynnu'n ôl a bydd yr eiddo yn cael ei gynnig i ymgeisydd arall.

Os ydych chi'n anfodlon â'r ffordd yr ydym wedi delio â'ch cais, megis penderfyniadau ynglŷn â'ch cymhwysedd ac unrhyw ffeithiau yr ydym wedi dibynnu arnynt wrth wneud ein penderfyniad, gallech ofyn am adolygiad o'n penderfyniad.

Sylwch, byddwn yn gofyn i chi ddarparu dogfennau i ddangos tystiolaeth o'ch sefyllfa, gall hyn fod yn brawf ariannol a meddygol, prawf adnabod, prawf cyfeiriad, copïau o unrhyw Hysbysiadau a weinwyd arnoch - nid yw'r rhestr hon yn holl gynhwysfawr.

Os cewch chi broblem logio mewn, anfonwch e-bost at  housing@powys.gov.uk

 

Cyswllt

Eich sylwadau am ein tudalennau