Cynilo mwy yn eich llyfrgell leol

21 Mawrth 2018 |
Mae Gwasanaeth Llyfrgelloedd Powys yn falch gallu croesawu Undeb Credyd Cambrian i Lyfrgelloedd y Drenewydd a'r Trallwng, i gynnig gwybodaeth ariannol, gwybodaeth i drigolion lleol am gynlluniau cynilo a benthyg, yn ogystal â'r gwasanaeth benthyca llyfrau, DVD a defnyddio'r rhyngrwyd a gwasanaethau eraill sydd eisoes ar gael yn ein llyfrgelloedd cyhoeddus.
Cydweithredfa ariannol yw Undeb Credyd. Ei haelodau sy'n berchen arni, a hwy sy'n ei rheoli. Mae'r undeb yn cynnig man cyfeillgar, cyfleus a rhwydd i gynilo, yn ogystal â chyfle i fenthyca am bris teg. Bydd Undeb Credyd y Cambrian ar agor yn Llyfrgell y Trallwng o 9:30am tan 1:00pm ar ddydd Llun a dydd Mercher, ac yn Llyfrgell Ardal y Drenewydd ar foreau Mawrth, Iau a Gwener bob wythnos.
Dywedodd y Cyng. Martin Weale, Aelod Portffolio ar faterion Adfywio a Chynllunio, "Rwy'n falch iawn gweld llyfrgelloedd yn creu cysylltiad gydag elusennau fel Undeb Credyd y Cambrian sy'n gwneud cymaint i helpu i leddfu tlodi a phwysau ariannol i bobl yn ein cymunedau.
"Mae'r ddau wasanaeth yn darparu adnoddau defnyddiol a chynaliadwy ar lefel gymunedol ac maent yn gydnaws â chynllun Iechyd a Llesiant y cyngor. Hoffwn i weld cefnogaeth i'r undebau credyd yn tyfu trwy'r bartneriaeth yma ac i bobl leol wneud defnydd da o'r ddau wasanaeth pwysig hyn. Mae Llyfrgelloedd eisoes yn arbed arian i bobl trwy eu hailgylchu a'r ffordd y maent yn rhannu'r defnydd o adnoddau gwych, ac mae'r Undeb Credyd yn cyfoethogi'r cynnig yma i hybu'r economi leol."
Dywedodd Ann Francis, Rheolwr Cyffredinol Undeb Credyd y Cambrian: "Mae'n bwysig bod gennym rywle lleol a chyfeillgar lle gallwn gynnig y gwasanaeth yma, lle gall pobl fagu'r arfer o gynilo a cheisio cyngor a chyfarwyddyd ynglyn â rheoli eu harian. Roeddem yn chwilio am fan cyhoeddus a oedd yn darparu amgylchedd cyfeillgar a chymwynasgar yn y gymuned, ac mae'r llyfrgell yn berffaith ar gyfer hyn - rhywle lle y mae pobl yn gyfforddus, lle mae'n hawdd defnyddio'r gwasanaethau."
"Mae'n adeg anodd i lawer o bobl pan mae pryderon ariannol yn effeithio ar eu cyllideb. Ry'n ni yma i wrando ac i helpu trwy gynnig cyngor a chyfarwyddyd, a chynlluniau cynilo a benthyg. Ry'n ni'n awyddus i bobl leol ddod yn aelodau ac yn rhan o'u hundeb credyd leol, gan annog dulliau cyfrifol o gynilo i bob oed."