Toglo gwelededd dewislen symudol

Hawliau Tramwy: Arwyddion

 

Arwyddion ar Hawl Tramwy Cyhoeddus

Mae'n rhaid i ni godi arwydd pan fydd pob llwybr troed cyhoeddus, llwybr ceffyl neu gilffordd yn gadael ffordd fetlin. Bydd hyn fel rheol yn arwyddbost pren, metel neu blastig, a fydd weithiau'n nodi'r pellter i le penodol ar hyd y llwybr. Bydd yr arwyddbost bob amser yn nodi statws y llwybr. 

 

Marcio'r Llwybr

Rydym yn gosod arwyddion ar hyd hawl tramwy cyhoeddus i ddangos y ffordd i bobl sydd ddim yn gyfarwydd â'r ardal. Defnyddir saethau bychain i wneud hyn. Mae cynllun lliw y cytunwyd arno'n genedlaethol yn defnyddio saethau melyn ar gyfer llwybrau troed cyhoeddus, saethau glas ar gyfer llwybrau ceffyl, porffor ar gyfer 'cilffyrdd cyfyngedig' a saethau coch ar gyfer 'cilffyrdd agored i bob traffig'.

Rydym yn gosod yr arwyddion mewn mannau sy'n gyfleus i bawb ac rydym yn dilyn yr arweiniad cenedlaethol i osod llai o arwyddion mewn rhai mannau er mwyn peidio ag amharu ar harddwch naturiol yr amgylchedd.

 

Arwyddion a Rhybuddion Camarweiniol

Gall arwyddion camarweiniol ac anghyfreithlon rwystro pobl rhag defnyddio'u hawl i ddefnyddio hawl tramwy cyhoeddus a byddwn yn cael gwared ar unrhyw arwyddion a godwyd ar hawl tramwy.  Os oes arwydd yn cael ei godi ar dir cyfagos gallwn wneud cais i lys yr ynadon. Gall yr ynadon roi dirwy, a/neu orchymyn y troseddwr i gael gwared ar yr arwydd.

Cysylltiadau

Dilynwch ni ar:

Rhowch sylwadau am dudalen yma