Toglo gwelededd dewislen symudol

Hawliau tramwy cyhoeddus sydd ar gau dros dro ym Mhowys

Ceir hyd i wybodaeth am y rhan fwyaf o drefniadau cau ein hawliau tramwy cyhoeddus ar ein tudalen Facebook erbyn hyn; gweler https://www.facebook.com/PowysHighwaysTransportRecycling/

Manylion y Llwybr: Llwybr troed 156 Llanfihangel

Llwybr yn cau: 29 Gorffennaf 2022

Gorchymyn yn dod i ben: 29 Ionawr 2024

Rheswm: Sgil stepiau sydd wedi cael eu difrodi.  Llwybr troed 156 Llanfihangel map (PDF) [2MB]  Gorchymyn Llwybr Troed 156, Llanfihangel (Cau dros dro) 2022 (PDF) [141KB]

 

Manylion y Llwybr: Llwybr troed 114, Fron Berriw

Llwybr yn cau: 27 Hydref 2020

Gorchymyn yn dod i ben: 27 Ionawr 2024

Rheswm: Pont beryglus.  Llwybr troed 114, Fron Berriw (PDF) [615KB] Rhybudd Brys, Llwybr Troed 114, Aberriw Gwaharddiad Dros Dro i Gerddwyr (PDF) [62KB]

 

Manylion y Llwybr: Cilffordd yn agored i bob traffig LC296 (Monks Trod) Rhaeadr Gwy. Ar gau i Gerbydau Modur a Cherbydau a Dynnir gan Geffylau o Garn Ricet (pwynt A) yng nghyfeirnod grid OS SN 871,709 am oddeutu 6km tuag at y ffin sirol gyda Cheredigion yn Afon Claerwen (pwynt B) yng nghyfeirnod Grid OS SN 823,682.  Hysbysiad o Estyniad - Bydd Cilffordd LC296 (Llwybr y Mynaich) yn cau dros dro (PDF) [350KB]

Caniateir mynediad i gerbydau modur i gilffordd LC296 o Garn Ricet (pwynt A) yng nghyfeirnod grid SN871709 tuag at y ffin sirol gyda Cheredigion yn Afon Claerwen (pwynt B) yng nghyfeirnod Grid OS SN823682 am hyd at 3 (tri) o ddyddiau penodedig o'r 1 Medi 2022 ar gyfer hyd y Gorchymyn. Bydd y rhain yn gyfuniad o ddyddiau caniatâd penodedig sy'n cael eu trefnu a'u goruchwylio gan y Cyngor Sir; a digwyddiadau a gynhelir dan Reoliad 5(c) Rheoliadau Cerbydau Modur (Cystadlaethau a Threialon) 1969 (a adwaenir hefyd fel 'Rali Diogelwch Ffyrdd'), trwy drefniant o flaen llaw gyda'r Cyngor. Bydd dyddiau a ganiateir ac a drefnir gan y Cyngor yn cael eu hysbysebu ar wefan y Cyngor, trwy gyfryngau cymdeithasol a thrwy hysbysu aelodau Grŵp Defnyddwyr Cilffyrdd Powys. Bydd amodau yn gymwys i'w defnyddio gan feiciau modur ar y dyddiadau hyn, y mae'r manylion wedi'u dynodi yn y Gorchymyn ac y gellir eu darparu ar gais.  

Dyddiad Dechrau Cau'r Gilffordd: 1 Medi 2023

Gorchymyn yn Dod i Ben: 1 Mawrth 2024

Rheswm: Oherwydd dirywiad yng nghyflwr wyneb y gilffordd  Lawr lwytho map (PDF) [3MB]