Cyngor ar Reoli Coetiroedd (Coed Cymru)
"Mae Coed Cymru wedi bod yn hyrwyddo dulliau rheoli coedwigoedd call a chynaladwy ers 21 mlynedd trwy Gymru gyfan, gan ganolbwyntio ar reoli coedwigoedd cynhenid sydd wedi'u hesgeuluso, a pharhau i ddatblygu'r sector prosesu pren caled.
Rydym yn ymdrechu i gynnig dealltwriaeth go iawn o bwysigrwydd cymdeithasol, masnachol ac amgylcheddol coedwigoedd i Gymru.
Ein nod yw atgyfodi diwylliant o reoli coedwigoedd yng Nghymru a fydd yn gwella a bytholi ein coedwigoedd. Os bydd y manteision yn fwy na'r costau, byddwn wedi cyrraedd ein nod."
Beth yw Coed Cymru?
Menter Genedlaethol yw Coed Cymru sy'n cael ei chefnogi gan gyrff statudol, sefydliadau'r llywodraeth a chwmniau preifat ar draws Cymru. Mae'n cynnig cymorth a chyngor am ddim ar reoli coetiroedd a'r defnydd cynaladwy o gynnyrch coedwigoedd. Mae'n cwmpasu'r cyfan - o dyfu coed newydd i gynnyrch pren caled Cymreig o ansawdd uchel
Beth mae Coed Cymru yn ei wneud ym Mhowys?
Yn ogystal â chynghori'r cyngor ar reoli ei stad goetiroedd ei hunan, mae Swyddogion Coed Cymru'n cynnig cymorth technegol arbenigol, yn cynnwys
- gwasanaeth ymgynghorol a chynllunio ar gyfer coedwigoedd llawn a rheoli coetiroedd
- cyngor ar gaffael deunyddiau, ardystio coedwigoedd, adeiladu, rheoli gwastraff pren,
- cyngor ar ynni gwyrdd yn cynnwys defnyddio biodanwydd a deunydd adnewyddadwy
- gwybodaeth a chyngor ar briffyrdd, ymylon y ffordd fawr a rheoli mannau agored.
Mae Coed Cymru yn gweithio gydag ystod o gyrff eraill ar brosiectau lleol a chenedlaethol.
Cael Cyngor
I gael cyngor ar reoli coetiroedd, marchnata pren caled, neu wybodaeth dechnegol am gynnyrch a thechnoleg arbenigol, cysylltwch â'ch swyddog Coed Cymru lleol.