Hawl i Brynu

4 Ebrill 2018 |
Ni does gan denantiaid cymdeithasol Cyngor Sir Powys yr hawl mwyach i brynu'r eiddo maent yn byw ynddo, yn dilyn newidiadau mewn deddfwriaeth genedlaethol.
Derbyniodd Deddf Diddymu'r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru) Gydsyniad Brenhinol fis Ionawr 2018 er mwyn dod â'r arfer i ben ar draws y wlad.
Yn genedlaethol, er mwyn annog datblygu stoc tai newydd ac amddiffyn buddsoddiad diweddar, daeth yr Hawl i Brynu, a'r Hawl i Gaffael ar gyfer 'cartrefi newydd' i ben ar 24 Mawrth - cartrefi na chawsant eu gosod fel tai cymdeithasol am y chwe mis cyn y dyddiad hwnnw yw 'cartrefi newydd'. Yn achos yr holl stoc tai cymdeithasol, bydd y diddymiad terfynol yn digwydd ar 26 Ionawr 2019.
Y llynedd, gwnaeth Cyngor Sir Powys gais i Lywodraeth Cymru i atal yr Hawl i Brynu, yr Hawl i Gaffael a'r hawliau cysylltiedig ar gyfer holl denantiaid tai cymdeithasol ym Mhowys.
Cymeradwywyd yr ataliad gan Lywodraeth Cymru yn gynharach y mis yma a daeth i rym ar unwaith. Effaith yr ataliaeth yw dod â'r Hawl i Brynu, yr Hawl i Gaffael a'r holl hawliau cysylltiedig ar gyfer holl denantiaid tai cymdeithasol ym Mhowys i ben ar unwaith.
Dywedodd Arweinydd y Cyngor, Rosemarie Harris: "Rydym yn croesawu penderfyniad y Gweinidog yn ystod cyfnod o angen sylweddol am dai, a byddwn yn parhau i weithio gyda'n partneriaid i ddiwallu anghenion tai pobl Powys. Ni fyddai'n gynhyrchiol buddsoddi mewn prosiectau adeiladu newydd pan mae'r hawl i brynu yn dal mewn grym sy'n golygu bod eiddo'n cael ei dynnu allan o'r farchnad tenantiaid cymdeithasol."