Polisi Arddangosiadau ac Arddangosfeydd
Egwyddorion
Rôl y Gwasanaeth Llyfrgelloedd, Gwybodaeth ac Archifau yw "darparu mynediad cyfartal a diduedd i wybodaeth, gwybodaeth a syniadau i holl bobl Powys".
Mae Llyfrgelloedd y Sir yn darparu adnoddau a gwasanaethau o ansawdd sy'n diwallu anghenion trigolion o ran addysg, diwylliant a hamdden. Bydd Llyfrgelloedd yn darparu lle ar gyfer arddangosfeydd ac i arddangos hysbysiadau, posteri a thaflenni at y diben yma.
Mae'r Gwasanaeth Llyfrgelloedd yn cefnogi egwyddor rhyddid deallusol ac yn gosod gwerth ar rannu a mynegi syniadau a gwybodaeth.
Arddangosiadau, Hysbysiadau, Posteri a Thaflenni
Bydd hysbysfwrdd ger pob man gwasanaeth i unigolion a grwpiau hyrwyddo'u gweithgareddau a/neu ddatgan eu barn i aelodau'r gymuned. Bydd y rhan fwyaf o lyfrgelloedd yn darparu mannau ar gyfer arddangosiadau, gan ddibynnu a oes lle ar gael ai peidio. Ambell waith, byddwn yn methu â deryn hysbysiadau neu arddangosiadau oherwydd diffyg lle. Yn fwy cyffredinol, bydd yr amodau canlynol yn berthnasol:
Dylai hysbysiadau, posteri ac arddangosiadau fod o safon a chynhyrchiad derbyniol, a chynnwys manylion cyswllt eglur ar gyfer y grwpi neu'r trefnydd perthnasol;
Bydd deunyddiau'n cael eu harddangos ar y ddealltwriaeth nad yw Cyngor Sir Powys yn cymeradwyo, yn hyrwyddo nac yn argymell unrhyw ddigwyddiad, safbwynt, gwasanaeth neu sefydliad sy'n cael ei hysbysebu;
Ni fydd hysbysiadau, posteri ac arddangosfeydd yn cael eu dangos heb ganiatâd y llyfrgellydd. Rhaid i bob deunydd gael ei gyflwyno i'r llyfrgellydd-â-gofal. Bydd hysbysiadau sy'n cael eu harddangos heb ganiatâd yn cael eu tynnu i lawr.
Cyfrifoldeb arddangoswyr yw yswirio'r pethau y maen nhw'n eu dangos - nid yw'r gwasanaeth llyfrgelloedd yn gallu cymryd cyfrifoldeb os yw'r pethau hyn yn cael eu colli neu eu difrodi
Oherwydd ddiffyg lle, mae'n bosibl y bydd angen cyfyngu ar y lle a'r amser sydd ar gael i arddangos y deunydd;
Mae'r Llyfrgell yn cadw'r hawl i wrthod deunyddiau sy'n:
- Hyrwyddo plaid wleidyddol benodol;
- Hyrwyddo safbwynt crefyddol penodol;
- Ymwneud ag ymgyrchoedd codi arian;
- Ymwneud ag arian neu wasanaethau ariannol;
- Hysbysebu gwasanaethau masnachol;
- Hysbysebion personol;
- Hysbysebu swyddi (heblaw am benodiadau Cyngor Sir Powys);
- Anghyfreithlon neu'n tramgwyddo chwaeth gyhoeddus.
Lle bo'n briodol, bydd y Llyfrgell yn arddangos ymwadiad i esbonio nad safbwyntiau'r Llyfrgell na rhai Cyngor Sir Powys yw'r rhai sy'n cael eu mynegi.
Ni all y gwasanaeth Llyfrgelloedd dderbyn tocynnau raffl, tocynnau, deisebau na blychau casglu o unrhyw fath.
DS: Yn unol â Pholisi Asedau Corfforaethol Cyngor Sir Powys (Fersiwn 2.1.12 - Rhagfyr 2013 - tud 32, pwynt 2.7)
"Oherwydd ei fod yn ddiwrnod cenedlaethol y Cofio, mae sefydliad Cyngor Sir Powys yn cefnogi Diwrnod y Cofio, ac felly mae'n caniatáu gwerthu nwyddau sy'n ymwneud â'r achlysur yma".
Bydd hyn yn berthnasol i holl adeiladau Cyngor Sir Powys sy'n cael eu defnyddio gan y cyhoedd, gan gynnwys pob llyfrgell gyhoeddus.