Gwasanaeth Ymchwil ac Astudiaethau Lleol yn Llyfrgell Aberhonddu
Mae Llyfrgell Ardal Aberhonddu'n cadw Casgliad Astudiaethau Lleol Brycheiniog - mae cyfeirlyfrau a llyfrau ar fenthyg ar gael yno.
Set gyflawn o'r cylchgrawn hanes lleol Brycheiniog.
Mae canlyniadau Cyfrifiad Brycheiniog 1841-1901, ar ficroffilm. Gellir defnyddio'r darllenydd microffilm i baratoi eitemau i'w hargraffu.
Mae Papurau Newdd Lleol ar gael ar ficroffilm (Brecon & Radnor, County Times Aberhonddu, Silurian)
Mae ein holl gyfrifiaduron cyhoeddus yn cynnig mynediad am ddim i hanes teuluol trwy ANCESTRY a FINDMYPAST. Yn ogystal â hyn, mae'r cyfrifiadur Astudio'n cynnig mynediad at nifer o wefannau hanes teulu a hanes lleol.
Sut i wneud cais
- Llenwch y ffurflen isod i roi manylion clir o'ch anghenion ymchwil.
- Efallai y byddwn yn cysylltu â chi i drafod yr ymchwil.
- Byddwn yn anfon canlyniadau'r ymchwil atoch, ynghyd â'r bil, trwy'r e-bost neu'r post - o fewn 4 wythnos fel rheol
- Mae'r ffi am yr ymchwil yn daladwy pan fyddwn wedi gwneud yr ymchwil - mae'r ymchwil yn costio £20.00 fesul hanner awr (hyd at ddwy awr). Mae'r ffi'n daladwy hyd yn oed os nad yw'r ymchwil yn cynhyrchu canlyniadau.
- Rydym yn derbyn sieciau'n daladwy i "Cyngor Sir Powys" o fanc yn y DU. Neu gallwch dalu ar-lein, trwy gerdyn debyd neu gerdyn visa, gan ddefnyddio'n cyfleuster taliadau ar-lein.
Gwneud cais yma Cais am Wasanaeth Ymchwil ac Astudiaethau Lleol yn Llyfrgell Aberhonddu