Cyfrannu neu adneuo cofnodion
Rydym yn falch o dderbyn dogfennau i'w cadw'n ddiogel yn Archifau Powys, os ydynt yn dod o fewn cylch gorchwyl ein polisi casgliadau.
Gellir cyflwyno cofnodion naill ai fel rhodd, neu ar sail benthyciad tymor hir. Mae'r perchennog yn cael derbynneb a chopi o'r catalog cyn gynted ag y bydd wedi'i gwblhau.
Bydd y dogfennau hyn yn cael eu cadw'n ddiogel mewn amgylchedd sy'n cael ei reoli er mwyn ceisio'u cadw'n barhaus. Byddant ar gael i'r cyhoedd eu gweld dan oruchwyliaeth ofalus.