Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Gostyngiadau Trethi i Fusnesau Bychain (i 31/03/2018)

Cynnydd yn y Rhyddhad Ar Drethi 2018

Bydd safleoedd busnes â gwerth trethadwy o hyd at £6,000 yn cael gostyngiad o 100% a'r rheiny â gwerth trethadwy o rhwng £6,001 a £12,000 yn cael gostyngiad graddedig a fydd yn cael ei leihau'n raddol o 100% i sero.

Enghreifftiau o'r bras-ganrannau gostyngiad graddol:

  • Gwerth Trethiannol 0-6,000 - 100% Rhyddhad
  • Gwerth Trethiannol 7,000 - 83.4% Rhyddhad
  • Gwerth Trethiannol 8,000 - 66.6% Rhyddhad
  • Gwerth Trethiannol 9,000 - 50% Rhyddhad
  • Gwerth Trethiannol 10,000 - 33.3% Rhyddhad
  • Gwerth Trethiannol 11,000 - 16.6% Rhyddhad

Os yw busnesau'n derbyn cyfradd uwch o ostyngiad o dan y cynllun cyfredol nag o dan y cynllun rhyddhad ychwanegol, byddant yn destun y gostyngiad sydd fwyaf buddiol iddyn nhw.   .  

Nodiadau:

  1. Rhaid i bob safle busnes fod yn weithredol  (rhaid iddynt gael eu meddiannu'n llwyr) er mwyn bod yn gymwys ar gyfer y gostyngiad.
  2. Nid yw Safleoedd Eithriedig yn gymwys i gael gostyngiad. Hynny yw, y rheiny sy'n cael eu meddiannu gan gyngor, awdurdod heddlu neu'r Goron; y rheiny sy'n cael eu meddu gan elusennau, clybiau cofrestredig, neu sefydliadau nid-er-elw a dyngarwch, crefydd, addysg, lles cymdeithasol, gwyddoniaeth, llenyddiaeth neu gelfyddyd gain yn brif amcan iddynt; caban traeth, eiddo sy'n cael ei ddefnyddio dim ond i arddangos hysbysebion, parcio ceir modur, gwaith carthffosiaeth neu gyfarpar cyfathrebu electronig.

 

Pa gynllun Gostyngiad fydd yn berthnasol ar gyfer y cyfnod o Hydref 2010 hyd 31 Mawrth 2018

  • Categori: Heb ei eithrio na mewn unrhyw Gategori arall
  • GT o: 0
  • GT hyd: 7,800
  • Cynllun: Cynllun Uwch

 

  • Categori: Heb ei eithrio na mewn unrhyw Gategori arall
  • GT o: 7,801
  • GT hyd: 12,000
  • Cynllun: Cynllun Uwch

 

  • Categori: Swyddfa Bost
  • GT o: 0
  • GT hyd: 9,000
  • Cynllun: Cynllun Presennol

 

  • Categori: Swyddfa Bost
  • GT o: 9,001
  • GT hyd: 12,000
  • Cynllun: Cynllun Presennol

 

  • Categori: Gofal Plant
  • GT o: 0
  • GT hyd: 9,000
  • Cynllun: Cynllun Uwch

 

  • Categori: Gofal Plant
  • GT o: 9,001
  • GT hyd: 12,000
  • Cynllun: Cynllun Presennol

 

  • Categori: Safle Manwerthu
  • GT o: 7,801
  • GT hyd: 10,499
  • Cynllun: Cynllun Uwch

 

  • Categori: Safle Manwerthu
  • GT o: 10,500
  • GT hyd: 11,000
  • Cynllun: Cynllun Presennol

 

 

Trethi fydd mewn grym o 1 Ebrill 2010

  • Math o Fusnes a Gwerth Ardrethol: Busnesau gyda Gwerth Ardrethol o £1 - £2,400
  • Canran y Gostyngiad: 50%
  • Pwy sy'n Gymwys: Mae pob busnes yn gymwys, ac eithrio'r canlynol:- Eiddo yn gweithredu fel, neu wedi'u meddiannu gan Swyddfeydd Post; awdurdodau lleol, awdurdodau heddlu neu adeiladau'r Goron; elusennau a chyrff nad ydynt er gwneud elw, cytiau traeth, byrddau/hawliau hysbysebu, meysydd parcio, gweithfeydd carthion neu offer cyfathrebu electronig.
  • Sut i Hawlio: Nid oes angen cais.  Mae'r gostyngiad fel arfer yn cael ei wobrwyo'n awtomatig ar sail y terfyn gwerth ardrethol ac ar yr amod fod y meini prawf cymhwyster yn cael ei ddiwallu.

 

  • Math o Fusnes a Gwerth Ardrethol: Busnesau gyda Gwerth Ardrethol o £2,401 - £7,800
  • Canran y Gostyngiad: 25%
  • Pwy sy'n Gymwys: Mae pob busnes yn gymwys, ac eithrio'r canlynol:- Eiddo yn gweithredu fel, neu wedi'u meddiannu gan Swyddfeydd Post; awdurdodau lleol, awdurdodau heddlu neu adeiladau'r Goron; elusennau a chyrff nad ydynt er gwneud elw, cytiau traeth, byrddau/hawliau hysbysebu, meysydd parcio, gweithfeydd carthion neu offer cyfathrebu electronig.
  • Sut i Hawlio: Nid oes angen cais. Mae'r gostyngiad fel arfer yn cael ei wobrwyo'n awtomatig ar sail y terfyn gwerth ardrethol ac ar yr amod fod y meini prawf cymhwyster yn cael ei ddiwallu.

 

  • Math o Fusnes a Gwerth Ardrethol: Swyddfa Bost gyda Gwerth Ardrethol o £1 - £9,000
  • Canran y Gostyngiad: 100%
  • Pwy sy'n Gymwys: Eiddo a ddefnyddir, neu ran ohono a ddefnyddir fel swyddfa bost.
  • Sut i Hawlio: Llenwch ffurflen gais.

 

  • Math o Fusnes a Gwerth Ardrethol: Swyddfa Bost gyda Gwerth Ardrethol o £9,001 - £12,000
  • Canran y Gostyngiad: 50%
  • Pwy sy'n Gymwys: Eiddo a ddefnyddir, neu ran ohono a ddefnyddir fel swyddfa bost.
  • Sut i Hawlio: Llenwch ffurflen gais.

 

  • Math o Fusnes a Gwerth Ardrethol: Darparwyr Gofal Plant/Meithrinfeydd gyda GA o hyd at £12,000
  • Canran y Gostyngiad: 50%
  • Pwy sy'n Gymwys: Rhaid defnyddio'r eiddo yn llwyr ar gyfer gwarchod plant neu ddarparu gofal dydd yng Nghymru a rhaid iddo fod wedi'i gofrestru dan Ran XA o Ddeddf Plant 1989.
  • Sut i Hawlio: Llenwch ffurflen gais.

 

  • Math o Fusnes a Gwerth Ardrethol: Eiddo adwerthu sy'n gwerthu nwyddau gyda GA o £7,801 - £11,000
  • Canran y Gostyngiad: 25%
  • Pwy sy'n Gymwys: Rhaid defnyddio'r eiddo'n llwyr neu'n rhannol i werthu nwyddau, sydd hefyd yn cynnwys: - gwerthu prydau bwyd, lluniaeth sy'n cynnwys gwirod meddwol i'w yfed ar yr eiddo neu oddi yno, petrol neu danwyddau eraill i foduron a fwriedir neu a addaswyd i'w defnyddio ar y ffyrdd Bydd busnesau sy'n meddiannu mwy nag un eiddo yng Nghymru gyda gwerth ardrethol rhwng y trothwyon hynny ond yn cael hawl i ostyngiad ar un eiddo, y bydd rhaid iddynt ei ddewis.
  • Sut i Hawlio:  Llenwch ffurflen gais.  I fod yn gymwys am ostyngiad, rhaid i fusnes ddangos fod y meini prawf cymhwyster adwerthu wedi cael ei ddiwallu. Hefyd, o ran busnesau sy'n meddiannu mwy nag un eiddo yng Nghymru, bydd yr hysbysiad yn cael ei gyflwyno'n unig i un awdurdod o'u dewis.