Cynllun Gwella Corfforaethol cymeradwyo

18 Ebrill 2018 |
Mae'r Cyngor wedi cymeradwyo cynlluniau uchelgeisiol sy'n amlinellu blaenoriaethau Cyngor Sir Powys ar gyfer y blynyddoedd i ddod.
Cafodd Cynllun Gwella Corfforaethol 2018-2023, sy'n nodi pedair blaenoriaeth y cyngor - yr Economi; iechyd a Gofal; Dysgu a Sgiliau; a Thrigolion a Chymunedau - ei gymeradwyo gan y cyngor pan gyfarfu yn Llandrindod ddydd Mawrth, 17 Ebrill.
Dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Rosemarie Harris; "Mae'r Cynllun Gwella Corfforaethol yn cefnogi ein Gweledigaeth 2025 a'r hyn yr ydym yn meddwl sy'n bwysig i flaenoriaethau'r cyngor ar gyfer y pum mlynedd nesaf a thu hwnt.
"Rydym wedi llunio'r cynllun gwella ochr yn ochr â chynlluniau gwella allweddol y cyngor. Mae'n ystyried bod angen i ni wella ein gwasanaethau statudol yn sylweddol yn y tymor byr wrth i ni gydbwyso hyn gyda newid trawsffurfiol yn y tymor hir.
"Mae'n cyd-fynd yn agos â Chynllun Llesiant Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Powys a Chynllun Ardal y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol i sicrhau bod ein partneriaid i gyd yn gweithio tuag at yr un deilliannau ar gyfer pobl Powys.
"Credwn y dylai'r economi fod wrth wraidd Gweledigaeth 2025. Heb economi gref, byrlymus a llawn menter ni allwn gynnig swyddi o ansawdd ar gyfer ein pobl ifanc. Ni allwn ychwaith creu a meithrin cwmnïau lleol neu ddenu busnesau blaengar i'r sir.
"Mae Iechyd a Gofal yn flaenoriaeth i bawb, rhaid i ni gydweithio â phartneriaid i ddarparu gwasanaethau integredig er mwyn cynnig gwasanaethau ar seiliau cedyrn yn y dyfodol. Rhaid i ni wneud ein gorau glas i gynnig cymaint o wasanaethau gofal ag y gallwn ni o fewn ffiniau Powys.
"Bydd Dysgu a Sgiliau wrth wraidd ein blaenoriaethau wrth i ni ddarparu cyfleoedd addysgol o'r radd flaenaf i bob un o'n dysgwyr. Rhaid i ni gofleidio'r heriau sydd ynghlwm wrth fod yn awdurdod
gweledig mawr a defnyddio technoleg i sicrhau bod pawb yn gallu cyrraedd gwasanaethau'n haws.
"Rhaid i'n cymunedau deimlo ein bod ni'n eu cefnogi a chael cyfle i fynegi barn ar yr hyn rydym yn ei ddarparu ar eu cyfer yn lleol. Dylai trigolion deimlo eu bod yn chwarae rhan allweddol wrth i ni ddarparu gwasanaethau lleol. Dyma pam mai Trigolion a Chymunedau yw ein blaenoriaeth olaf ac rydym yn ymrwymo i ymgysylltu â nhw mewn ffyrdd ystyrlon.
"Mae ein cynlluniau'n uchelgeisiol ond rydym yn credu y gallwn ni greu sir gallwn ni ymfalchïo ynddi drwy gydweithio a chefnogi ein gilydd," meddai.