Gosod wyneb newydd ar Stryd Fawr Uchaf Aberhonddu

19 Ebrill 2018 |
Mae Cyngor Sir Powys wedi gosod wyneb newydd ar ffordd un o drefi de Powys.
Ddechrau mis Ebrill, fe wnaeth Gwasanaeth Priffyrdd y cyngor osod wyneb newydd ar Stryd Fawr Uchaf Aberhonddu. Fel rhan o'r gwaith, tynnwyd y briciau pafin i ffwrdd a gosod tarmac yn eu lle gan eu bod yn cael eu difrodi gan gerbydau.
Gosodwyd nifer o gyrbau newydd hefyd gan fod nifer wedi'u difrodi gan gerbydau'n parcio'n anghyfreithlon ar y droetffordd.
Cynghorir gyrwyr i beidio parcio ar y droetffordd a chadw at y cyfyngiadau parcio sydd mewn lle ar Stryd Fawr Uchaf.
Dywedodd y Cynghorydd Phyl Davies, Aelod o'r Cabinet ar faterion Priffyrdd: "Roedd y cyrbau'n cael eu difrodi'n gyson wrth i geir orfod dringo ar y droetffordd i basio cerbydau oedd naill ai wedi parcio'n anghyfreithlon ar y droetffordd a mannau llwytho.
"Erbyn hyn rydym wedi ail-baentio'r marciau cyfyngiadau parcio fel y bydd gyrwyr yn gallu eu gweld nhw'n glir. Rydym yn annog gyrwyr i gadw at y cyfyngiadau hyn fel bod cerbydau'n gallu pasio'n rhydd heb orfod dringo ar y droetffordd.
"Bydd unrhyw gerbydau sy'n parcio'n anghyfreithlon yn gallu derbyn dirwy os byddan nhw'n cael eu gweld gan ein swyddogion parcio."