Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Treth y Cyngor: Adolygiadau

Adolygu ail gartrefi / cartrefi gwag

Mae Cyngor Sir Powys yn adolygu cartrefi a allai fod yn ail gartrefi neu'n wag am dymor hir.

Cartrefi sy'n wag am dymor hir yw rhai sydd wedi bod yn wag a heb ddodrefn sylweddol am gyfnod parhaus o flwyddyn o leiaf.

Ail gartef yw eiddo y bydd rhywun yn byw yno o dro i dro.  Nid dyma unig gartref na phrif gartref rhywun a bydd wedi'i ddodrefnu'n sylweddol.

Gallwch wybod mwy am yr eiddo hyn trwy fynd i'r dudalen hon

 

Adolygu eich manylion

Rydym wedi gofyn i chi lenwi ffurflen adolygu er mwyn adolygu eich eiddo.

Gallwch lenwi eich adolygiad o ail gartrefi neu eiddo gwag tymor hir ar-lein yma

Ar ôl i chi lenwi ac anfon y ffurflen, byddwn yn cysylltu â chi os oes angen rhagor o wybodaeth neu fod angen addasu eich cyfrif neu fil.

 

Adolygiad i'r Disgownt i Berson Sengl

Rydym yn parhau i adolygu disgowntiau a fydd yn helpu i adnabod ceisiadau twyllodrus ymhlith talwyr treth y cyngor sy'n ceisio twyllo'r system.

Bob blwyddyn mae awdurdodau lleol ar draws y wlad yn derbyn nifer fawr o geisiadau am ddisgownt i berson sengl.  Yn anffodus nid yw pob un o'r ceisiadau hyn yn rhai go iawn, a'r un fath â'r rhai sy'n hawlio budd-daliadau ar gam, mae'r bobl hyn yn hawlio gostyngiadau ffug ar eu biliau.

Trwy ddeddfwriaeth, mae'n bosibl erlyn twyllwyr treth y cyngor yr un fath â thwyllwyr budd-daliadau, a hynny trwy'r llysoedd a'u gorfodi i ad-dalu'r arian.

Byddwn bob amser yn sicrhau bod pob cais am ddisgownt yn rhai go iawn.  Ond, ar adegau fe all fod yn anodd esbonio amgylchiadau.  I helpu yn y sefyllfaoedd hyn, rydym wedi cynnwys rhai cwestiynau cyson sy'n gallu codi dros gyfnod yr adolygiad.

Adolygu eich manylion

Bydd y system yn gofyn i chi logio mewn trwy ddefnyddio eich rhif PIN unigryw (bydd y rhif PIN ar y llythyr anfonwyd atoch).  Byddwch chi hefyd angen eich rhif cyfrif treth y cyngor a'ch cod post.

Gwybodaeth bellach

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am eich PIN neu rif eich cyfrif, ewch i'r adran 'beth i'w wneud os....' ar y dudalen hon.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau eraill ewch i'r adran  Cwestiynau Cyson ar Ddisgowntiau i Berson Sengl

 

Beth i'w wneud os ...

Nid ydych wedi derbyn llythyr

Os nad ydych wedi derbyn llythyr eto, peidiwch â phoeni.  Bydd yr arolwg yn mynd ymlaen am ychydig eto.  Er mwyn ein helpu ni reoli ein hadnoddau a'n llwyth gwaith, byddwn yn cysylltu â phobl dros gyfnod hir o amser.  Trwy rannu'r gwaith fel hyn, gallwn roi gwell gwasanaeth i'n trigolion.

Os yw eich amgylchiadau chi wedi newid yn ddiweddar ac nad ydych wedi derbyn llythyr, rhowch wybod i ni trwy'r dudalen newid amgylchiadau.

Rydych wedi colli'r llythyr ac nid ydych yn gwybod eich PIN

Ffoniwch 01597 729052 i ofyn am lythyr arall.  

Mae gennych PIN ond nid yw'n gweithio

Os nad yw'r rhif yn gweithio gwnewch yn si?r eich bod yn cofnodi'r wybodaeth fel y mae'n ymddangos yn y llythyr.  Os yw'n dal i wrthod gweithio, ffoniwch 01597 729052 neu llenwch y ffurflen sydd ar gefn y llythyr.

Nid ydych yn gwybod cyfeirnod y cyfrif

Eich cyfeirnod yw rhif cyfrif Treth y Cyngor ac fe welwch y rhif ar dop eich llythyr.

Nid oes gennych gyfeirnod cyfrif

Os mai chi sy'n gyfrifol am eich cyfrif Treth y Cyngor, bydd gennych gyfeirnod y cyfrif.  Os 

Mwy o Gwestiynau Cyson yma